Meini Prawf Cymhwysedd Hyblyg ECO4 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Datganiad o Fwriad

Awdurdod Lleol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Hydref 2023
Rhif Fersiwn: F.1

Mae’r datganiad hwn yn nodi meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Wrecsam ar gyfer cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO4) o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2026. 

Bydd cynllun EC04 yn canolbwyntio ar gefnogi aelwydydd ag incwm isel ac aelwydydd diamddiffyn. Bydd y cynllun yn gwella’r cartrefi sydd leiaf effeithlon o ran ynni gan helpu i gwrdd ag ymrwymiadau tlodi tanwydd a sero net y Llywodraeth.

“ECO4 Flex” yw’r dull hyblyg a ddefnyddir gan Awdurdodau Lleol i ganfod aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd ac aelwydydd diamddiffyn a all elwa ar fesurau arbed ynni a gwres.

Mae’r Cyngor yn croesawu llwybrau cymhwysedd hyblyg EC04 Flex gan eu bod yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei gynlluniau i wella cartrefi aelwydydd sy’n wynebu tlodi tanwydd neu sy’n agored i’r oerfel. 

ECO4 flexible eligibility routes

Mae’r Cyngor yn cyhoeddi’r Datganiad o Fwriad hwn, ar 11/12/2023 i gadarnhau y bydd pob un o’r aelwydydd a nodwyd yn cadw at o leiaf un o’r pedwar llwybr sydd ar gael fel y nodir isod:

Llwybr 1

Aelwydydd ym Mandiau SAP D-G gydag incwm llai na £31,000. Mae’r terfyn yn berthnasol ni waeth beth fo maint yr eiddo, ei gyfansoddiad neu’r rhanbarth y mae ynddo.

Llwybr 2

Aelwydydd ym Mandiau SAP E-G sy’n bodloni cyfuniad o ddau o’r meini prawf dirprwyol a ganlyn:

Maen Prawf Dirprwyol 1

Cartrefi mewn Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is 1-3 ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (1).

Maen Prawf Dirprwyol 2

Mae unigolyn sy’n byw yn yr eiddo yn gymwys ar gyfer gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ar sail incwm isel.

Maen Prawf Dirprwyol 3

Deiliaid sy’n ddiamddiffyn mewn cartref oer fel y nodir yng Nghanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Dim ond un o’r rhestr y gellir ei ddefnyddio, ac nid yw’n cynnwys Maen Prawf Dirprwyol ‘incwm isel’.

Maen Prawf Dirprwyol 4

Deiliad sy’n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd incwm isel.

Maen Prawf Dirprwyol 5

Deiliad a gefnogir gan gynllun a weithredir gan Awdurdod Lleol, sydd wedi’i enwi a’i ddisgrifio gan yr Awdurdod Lleol fel un sy’n cefnogi aelwydydd incwm isel ac aelwydydd diamddiffyn at ddibenion canllawiau NICE.

Maen Prawf Dirprwyol 6

Aelwydydd y mae eu cyflenwr ynni, Cyngor ar Bopeth neu Gyngor ar Bopeth yr Alban wedi’u hatgyfeirio at yr Awdurdod Lleol am gefnogaeth gan eu bod wedi’u nodi fel aelwydydd sydd yn ei chael hi’n anodd talu biliau trydan a nwy.

Maen Prawf Dirprwyol 7

Aelwydydd a nodwyd drwy ddata dyledwyr cyflenwyr ynni.  Mae’r llwybr hwn yn galluogi cyflenwyr, sydd â rhwymedigaeth, i ddefnyddio eu data dyledion eu hunain i nodi naill ai aelwydydd heb fesurydd rhagdalu (dim-PPM) neu aelwydydd â mesurydd rhagdalu (PPM)*.

Cwsmeriaid heb fesurydd rhagdalu

Mae’r rhain yn gwsmeriaid sydd wedi bod mewn dyled am dros 13 wythnos yn dod i ben ar y diwrnod y llunnir eu datganiad, ac mae ganddynt gynllun ad-dalu gyda’u cyflenwyr ynni, neu’n ad-dalu eu dyledion tanwydd drwy ddidyniadau trydydd parti.

Cwsmeriaid â mesurydd rhagdalu

Gall cyflenwyr hefyd nodi aelwydydd PPM sydd:  

  • naill ai wedi datgysylltu eu hunain neu wedi derbyn credyd Dewisol / Cyfeillgar gan y cyflenwr yn y 13 wythnos diwethaf sy’n dod i ben ar y diwrnod y llunnir eu datganiad; neu  
  • sydd â chynllun ad-dalu dyled gyda’u cyflenwr ynni; neu  
  • yn ad-dalu eu dyled tanwydd trwy ddidyniadau 3ydd parti.

* Sylwer na ellir defnyddio Meini Prawf Dirprwyol 1 a 3 gyda’i gilydd.

* Ni ellir defnyddio Procsis Llwybr 1 a 3 mewn cyfuniad â’i gilydd. Ni ellir defnyddio procsi 7 mewn cyfuniad â phrocsi 5 neu 6. 

Llwybr 3

Aelwydydd sy’n cael eu hatgyfeirio at Awdurdod lleol fel aelwyd gydag unigolyn diamddiffyn sy’n dioddef o gyflwr iechyd difrifol neu hirdymor y mae cartref oer yn cael effaith niweidiol arno. 

Mae’n rhaid i gyflwr iechyd difrifol neu hirdymor yr unigolyn fod wedi’i achosi gan un o’r canlynol: 

  • Cyflwr cardiofasgwlaidd
  • Clefyd anadlol
  • Symudedd cyfyngedig
  • Imiwnoataliedig

Llwybr 4

Aelwydydd ym Mandiau SAP D-G wedi’u hatgyfeirio dan Lwybr 4: Targedu Pwrpasol. Gall cyflenwyr ac Awdurdodau Lleol gyflwyno cais i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol os ydynt wedi nodi aelwyd incwm isel a diamddiffyn nad yw eisoes yn gymwys dan y llwybrau presennol.

(1) Llywodraeth CymruMynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (diweddariad llawn i’r mynegai gyda graddfeydd): 2019 (dolen gyswllt allanol)

Cadarnhad o wiriad tystiolaeth a datganiad 

Dylai aelwydydd sy’n dymuno gwneud cais dan gynllun ECO4 gysylltu ag un o’r gosodwyr ECO cymeradwy ar wefan Cymru Gynnes, a fydd yn gallu hwyluso’r broses ymgeisio. 

Bydd y swyddog isod yn gyfrifol am wirio a chadarnhau datganiadau a thystiolaeth gysylltiedig a gyflwynir ar ran yr awdurdod lleol.

Enw: Martin Cumming
Swydd: Swyddog Arbenigol Diogelu’r Cyhoedd
Rhif ffôn: 01978 297105
E-bost: martin.cumming@wrexham.gov.uk

Llofnod y Prif Swyddog Gweithredol neu’r unigolyn cyfrifol dynodedig

Bydd y Cyngor yn gweinyddu cynllun ECO4 yn unol â Gorchymyn ECO4 yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a bydd yn nodi aelwydydd cymwys drwy broses ymgeisio Ofgem. Bydd y Prif Swyddog Economi a Chynllunio yn goruchwylio’r broses o nodi aelwydydd cymwys dan ECO4 Flex.

Bydd y wybodaeth ar gymhwysedd yn cael ei chadw’n ddiogel yn unol â pholisi diogelu data’r Cyngor, Cod Rhannu Data Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a chanllawiau’r Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Enw: David Fitzsimon
Swydd: Prif Swyddog, Economi a Chynllunio
Dyddiad Llofnodi: 19/11/2023

Proses

Dylai aelwydydd sy’n dymuno gwneud cais dan gynllun ECO4 gysylltu ag un o’r gosodwyr ECO cymeradwy a restrir ar wefan Cymru Gynnes (dolen gyswllt allanol), a fydd yn gallu hwyluso’r broses ymgeisio. 

Sylwch, nid yw’r cynllun ECO4 yn cael ei ariannu na’i redeg gan y Cyngor ac mae llawer o agweddau’r cynllun y tu allan i reolaeth neu gynlluniau’r Cyngor.

Dim rhwymedigaethau

Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd yn sgil canlyniadau, difrod na cholled o ganlyniad i dderbyn grant ECO4. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion sy’n gysylltiedig â pharatoi ceisiadau neu arolwg cyn gosod gwaith, neu o ganlyniad i waith a wneir dan gynllun ECO4. 

Nid yw’r Cyngor yn cefnogi unrhyw gyflenwr ynni, asiant grant, cwmni na chontractwr penodol mewn perthynas â rhoi grantiau neu waith gosod dan gynllun ECO4. 

Dylid codi unrhyw fater neu anghydfod yn sgil y gwaith neu’r broses ymgeisio mewn perthynas â’r cynllun ECO4 â’r gosodwr / asiant / cyllidwr. Mae rhan y Cyngor yn y cynllun ECO4 wedi’i gyfyngu i’r datganiad o gymhwysedd ar gyfer cyllid ECO4. Os hoffech chi i ni egluro’r datganiad hwn ymhellach, mae croeso i chi e-bostio healthandhousing@wrexham.gov.uk

Penderfyniad terfynol

Bydd y penderfyniad ynghylch a fydd aelwyd yn cael mesurau dan gymhwysedd hyblyg y cynllun ECO4, neu ffrydiau ariannu ECO eraill, yn cael ei wneud gan y cyflenwyr ynni neu eu hasiantau/contractwyr. NI FYDD bod yn gymwys dan y datganiad o fwriad neu Ddatganiad y Cyngor yn sicrhau y gosodir unrhyw fesur, gan mai’r cyflenwr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Er y bydd rhai mesurau sy’n cael eu hariannu gan y grant yn cael eu darparu am ddim i’r deiliad ar adeg eu gwerthu, mae’n bosibl y bydd mesurau eraill yn cael eu hariannu’n rhannol ac yn gofyn am gyfraniad gan y deiliad neu’r asiant.

Bydd derbyn neu wrthod unrhyw gytundeb ariannol neu gontract i osod mesur penodol neu gynnal arolwg cartref neu ddarparu gwasanaeth yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn y perchennog neu’r meddiannydd. Ni fydd y Cyngor yn rhan o unrhyw gytundeb o’r fath; bydd hyn yn digwydd rhwng y deiliaid a’r trydydd parti o’u dewis oddi ar restr asiantau/contractwyr cymeradwy Cymru Gynnes (dolen gyswllt allanol).

Llywodraethu

Mae’n rhaid gwneud ceisiadau am asesiad dan y Datganiad o Fwriad drwy Gymru Gynnes. Ni fydd y Cyngor yn derbyn ceisiadau yn uniongyrchol. 

Os hoffech chi wneud cais am gadarnhad o’ch cymhwysedd am grant, cysylltwch ag un o osodwyr cymeradwy ECO ar wefan Cymru Gynnes (dolen gyswllt allanol).

Bydd Cymru Gynnes yn gwirio pob cais dan y cynllun ECO4.

Bydd yn rhaid i unrhyw drydydd parti, asiant neu gontractwr sydd â chlient/cwsmer y mae arnyn nhw eisiau eu hatgyfeirio at y cynllun ECO4 fod ar restr o gontractwyr / asiantau cymeradwy Cymru Gynnes. Bydd ar y cleientiaid/cwsmeriaid angen defnyddio gwasanaethau fetio Cymru Gynnes a bydd yn rhaid iddyn nhw gael eu hatgyfeirio at y Cyngor drwy Gymru Gynnes.

Monitro

Mae gwybodaeth ynglŷn â nifer y datganiadau a gyhoeddir gan y Cyngor yn cael eu cofnodi yn defnyddio Cyfeirif Eiddo Unigryw (UPRN) a bydd y cyfeiriad, mesurau i’w gosod a’r llwybr cymhwysedd yn cael eu darparu i Ofgem.

Hysbysiad Preifatrwydd

Er mwyn gwneud cais dan y cynllun ECO4, bydd ar Gymru Gynnes, y contractwyr a’r asiantau angen casglu data personol. Nid yw’r Cyngor yn gallu prosesu datganiadau heb y partïon uchod. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am gyrchu cyllid y cynllun ECO4 nac am drefnu gosod unrhyw fesur. Er mwyn prosesu’r llythyr datganiad bydd ar y Cyngor angen y wybodaeth ganlynol gan Gymru Gynnes. Enw’r client, cyfeiriad, tystiolaeth ategol a’r llwybr atgyfeirio. 

Ar ôl cyflwyno datganiad i Gymru Gynnes, bydd y Cyngor yn anfon gwybodaeth am y cais i Ofgem. Sylwch, nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am gynnig na darparu’r grant. Bydd y Cyngor yn trin yr holl ddata personol a brosesir ar gyfer cynllun ECO4 yn unol â gofynion Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data 2016 a Deddf Diogelu Data 2018. Bydd yr holl ddata personol yn cael ei gadw gan y Cyngor am o leiaf 3 blynedd.

Cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd – Gwarchod y Cyhoedd sy’n egluro sut mae’r Cyngor yn defnyddio data personol.

Cadarnhad o wiriad tystiolaeth a datganiad

Dylai’r holl aelwydydd a all fod yn gymwys ymgeisio drwy un o gontractwyr / asiantau cymeradwy Cymru Gynnes i sicrhau y gallant elwa ar gynllun ECO4 neu, fel arall, gael eu hasesu ar gyfer cymhwysedd dan raglen berthnasol arall.

Bydd y swyddog isod yn gyfrifol am lofnodi datganiadau ar ran y Cyngor. 

Bydd swyddogion yn y swyddi canlynol hefyd yn gallu llofnodi datganiadau ar ran y Cyngor:

  • Swyddog Arbenigol Gwarchod y Cyhoedd (Safonau Tai) 
  • Arweinydd Iechyd yr Amgylchedd a Thai 

Bydd Cymru Gynnes yn gweinyddu’r cynllun ECO4 ar ran y Cyngor yn unol â Gorchymyn ECO4 yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a bydd yn nodi aelwydydd cymwys drwy broses ymgeisio Ofgem.

Ar gyfer unrhyw ymholiad cyffredinol ynglŷn â’r Datganiad o Fwriad hwn, e-bostiwch healthandhousing@wrexham.gov.uk.