Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sgil newydd, rhoi hwb i’ch cyfleoedd gyrfaol neu gysylltu ag eraill mewn modd cefnogol a hwyliog; yna gallai cwrs Dysgu Oedolion yn y Gymuned fod yn ddelfrydol i chi.
Gan weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, rydym wedi ffurfio partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru.
Rydym yn ceisio darparu cyfleoedd dysgu oedolion o ansawdd yn ein cymunedau, ar gyfer unrhyw un 19 oed a throsodd.
Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu:
- cyrsiau ymgysylltu a chyngor a sesiynau untro - os ydych yn chwilio am ddiddordeb neu sgil newydd ac yn dymuno cwrdd â phobl o’r un meddylfryd.
- cyrsiau achrededig (sy’n cael eu cydnabod yn swyddogol) - os ydych angen cymhwyster penodol i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant i ddarparu cyrsiau ledled Wrecsam a Sir y Fflint, er mwyn bodloni anghenion ein cymunedau.
Darparwyr cyrsiau
Yn Wrecsam, ein darparwr arweiniol yw Groundwork Gogledd Cymru, sy’n cynnig amrywiaeth o sesiynau a chyrsiau cyffrous a diddorol, ond rydym yn cydweithio â nifer o bartneriaid ar draws y rhanbarth i wneud yn siŵr y gallwn gynnig y cwrs iawn i chi.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Fel dysgwr rydym yn eich annog i roi gwybod am unrhyw anghenion dysgu sydd gennych pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cwrs, er mwyn i ddarparwr y cwrs sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth gywir.
Mae gennym weithdrefnau i nodi a ble bo’n briodol, i asesu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Cost
Mae ein holl Gyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn rhad ac am ddim.
Os ydych chi’n derbyn mynediad at gyrsiau gan ddarparwyr eraill a lle bo cost ar gyfer y cwrs efallai y gallech ofyn am gymorth i dalu amdano.
Mae modd cysylltu â ni ar acl@wrexham.gov.uk gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych ac fe wnawn ein gorau i gynorthwyo.
Os ydych chi angen trefnu gofal plant yna gwiriwch ein tudalen cymorth gyda chostau gofal plant.
Mae modd canfod gwybodaeth am gymorth ariannol cyffredinol hefyd ar ein tudalennau ‘Cymorth gyda chostau byw’ grantiau a budd-daliadau a biliau’r cartref.
Dod o hyd i gyrsiau a chofrestru
Mae modd canfod manylion cyrsiau sydd i ddod ar Facebook (nid oes angen cyfrif arnoch i weld y dudalen):
Mae modd cysylltu â’r darparwr yn uniongyrchol a byddant yn egluro’r broses gofrestru i chi ac yn sicrhau eich bod ar y cwrs cywir i chi. Mae modd rhoi gwybod iddynt y dull cysylltu a ffefrir gennych hefyd (naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost).
Cysylltu â'r tîm
E-bost: acl@wrexham.gov.uk