Oherwydd toriadau parhaol mewn cyllid gan y llywodraeth, mae rhaid i ni ddod o hyd i £185,000 o leiaf o doriadau i’n Gwasanaethau Llyfrgell a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol.

O ddydd Llun 18 Tachwedd 2024, byddwn yn lansio ymgynghoriad newydd am hyn. Gallwch gael gwybodaeth gyffredinol am yr ymgynghoriad hwn a sut i rannu eich barn:

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 18 Tachwedd 2024 ac 19 Ionawr 2025, er mwyn caniatáu amser i’r tîm cwsmeriaid, preswylwyr a budd-ddeiliaid i ymateb.

Gallai newidiadau posibl i’r gwasanaethau gael effaith ar ddarpariaeth Gymraeg a gynigir ar hyn o bryd. Mae’r dudalen hon yn crynhoi’r cynnig iaith Gymraeg ar hyn o bryd ac mae’n amlinellu ein nod ar gyfer ymrwymiad parhaus i ddarpariaeth Gymraeg.

Beth ydym ni’n gwybod?

Mae gan Sir Wrecsam boblogaeth o 135,394 o breswylwyr.  

Mae 9.7% o’r boblogaeth yn gallu siarad a darllen Cymraeg. 

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol yn casglu ac yn cadw data ar ddewis iaith cyfathrebu cwsmeriaid yn nhermau Cymraeg a Saesneg. 

Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol, adnoddau a digwyddiadau Cymraeg, er mwyn adlewyrchu anghenion dysgwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg.

Defnyddio a Hyrwyddo’r Gymraeg

Cymraeg 2050 yw Strategaeth y Gymraeg ar gyfer hyrwyddo a hwyluso defnydd y Gymraeg. Mae’n nodi dull hirdymor o weithio ar gyfer cyflawni targed o miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nod y strategaeth yw cyrraedd safle lle mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o bob agwedd ar fywyd bob dydd. 

Mae Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Cyngor Wrecsam (2022-2027) yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru, a bydd yn dod yn gonglfaen i gyfraniad y Cyngor tuag at gyrraedd y targed yn strategaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Cynllun Cyngor Wrecsam yn cynnwys y Gymraeg a diwylliant Cymru fel egwyddor cynllunio strategol. Mae’n cydnabod fod gan Gymru ddwy iaith swyddogol, Cymraeg a Saesneg, a dylai gwasanaethau a gwybodaeth fod ar gael yn gyfartal yn y ddwy iaith. Mae gwasanaethau a gwybodaeth y mae’r Cyngor yn eu darparu ar gael yn ddwyieithog. Mae’r awdurdod wedi ymrwymo i godi proffil y Gymraeg.

Staff

Mae tîm y gwasanaeth llyfrgell yn cynnwys siaradwyr Cymraeg sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn weithredol dros y ffôn ac yn bersonol i bawb. Mae hyn, yn ei dro’n annog sgyrsiau Cymraeg yn ein llyfrgelloedd cyhoeddus. 

Mae gan Wasanaeth Llyfrgell Wrecsam siaradwyr Cymraeg rhugl yn y Llyfrgell Pop Up, Llyfrgell Rhos a Llyfrgell Dinas Wrecsam. Maen’t yn annog cydweithwyr i ddysgu Cymraeg drwy hyrwyddo Brawddeg yr Wythnos. 

Mae staff ein llyfrgelloedd sy’n siarad Cymraeg yn dewis deunyddiau Cymraeg ar gyfer bob llyfrgell.

Gwasanaeth Swyddfa Ystadau Tai Dwyieithog 

Yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt.

Adnoddau

Mae adnoddau Cymraeg y llyfrgelloedd ar gael ar-lein (24/7); mae gennym ystod eang o e-lyfrau a llyfrau sain Cymraeg. Mae ein cynnig llyfrgell ddigidol yn ddwyieithog, mae cwsmeriaid yn gallu dewis Cymraeg a Saesneg wrth ddefnyddio rhai o’r apiau ar-lein. Mae sianeli ein cyfryngau cymdeithasol yn y ddwy iaith neu’n ddwyieithog. 

Mae casgliad mawr o stoc Cymraeg ar gael o Lyfrgell Dinas Wrecsam a chasgliadau manwl llai ar gael ymhob cangen, gan gynnwys yn y Llyfrgell Pop Up sy’n ymweld â chymunedau gwledig ac arunig drwy gydol y fwrdeistref sirol.

  • Mae Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam yn llunio newyddlen Cymraeg ar gyfer ein siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a budd-ddeiliaid i arddangos 
    adnoddau Cymraeg y llyfrgell 
  • mentrau Cymraeg y llyfrgell yn lleol ac yn genedlaethol
  • gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg lleol a chenedlaethol

Digwyddiadau

Mae’r gwasanaeth llyfrgell yn hyrwyddo, darparu ac yn cynnal sesiynau Cymraeg ar gyfer ystod o oedrannau, ar draws y Fwrdeistref Sirol, rydym yn darparu:

Mae digwyddiadau Awdur Cymraeg

Yn Llyfrgell Rhos a Llyfrgell Dinas Wrecsam yn cynnwys Gŵyl Geiriau Wrecsam. Gan weithio gyda Siop y Siswrn, yr Wyddgrug, sy’n gwerthu llyfrau Cymraeg yn y digwyddiadau hyn.

Clwb Cwtsh 

Yn Llyfrgell Wrecsam gyda Mudiad Meithrin, rhaglen anffurfiol sy’n canolbwyntio ar siarad Cymraeg gyda phlant ifanc. 

Sesiynau Grŵp Sgwrsio (Cymraeg llafar) 

Yn Llyfrgelloedd Rhos, Rhiwabon a Wrecsam. 

‘Ymweliadau Ysgol’ Cymraeg 

I ysgolion sy’n mynegi diddordeb. Yn y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi darparu sesiynau yn Llyfrgell Coedpoeth i Ysgol Bryn Tabor, yn Llyfrgell Rhos i Ysgol Hooson, ac yn Llyfrgell Wrecsam i Ysgol Bodhyfryd. Mae Ysgol Min y Ddôl yn ymwelwyr rheolaidd i Llyfrgell Cefn Mawr yn ystod y tymor, ac yn benthyg llyfrau Cymraeg i ddarllen am bleser, a bydd athrawon yn cynnal amser stori iddynt yn ystod eu hymweliad.

Sesiynau Magi Ann (yn ddibynnol ar gyllideb Menter Iaith) 

Ymhob llyfrgell yn ystod y tymor a Gŵyl Geiriau Wrecsam. 

Sesiynau Seren a Sbarc 

Yn llyfrgelloedd Cefn Mawr, Y Waun, Rhiwabon a Wrecsam.

Sesiynau Stori a Chân 

Yn Llyfrgelloedd Coedpoeth, Rhos a Wrecsam, a sesiynau Ti a Fi Cefn Mawr gyda Mudiad Meithrin yn Llyfrgell Cefn Mawr. 

Dosbarthiadau Cymraeg wythnosol 

Yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt, a ddarperir gan Goleg Cambria. 

Grwpiau Darllen Cymraeg 

Yn Llyfrgell Owrtyn a Llyfrgell Wrecsam. 

Pam Dysgu’r Lingo? 

Ar gyfer dysgwyr Llyfrgell Wrecsam sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda chylchgronau Golwg, Lingo a’r Doctor Cymraeg.

Ail-siapio Canolfannau Adnoddau Cymunedol a Llyfrgelloedd

Gall yr adolygiad effeithio ein timau, partneriaid, preswylwyr a chymunedau sy’n defnyddio eu gwasanaeth lleol yn nhermau cael mynediad at ddiwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg. 

Gall yr adolygiad leihau meithrin a datblygu’r Gymraeg mewn sir ar y ffin, ac effeithio ar gyfranogiad a darpariaeth lenyddol, celf, chwaraeon, addysg a hamdden ac eithrio bod darpariaeth amgen, a, neu ddarparwr yn cael ei sicrhau. 

Byddai unrhyw ostyngiad mewn darpariaeth llyfrgelloedd ac adnoddau cymunedol yn dirywio gwerth ychwanegol y gwasanaethau a ddarperir, gan gynnwys datblygiad Cymraeg cynnar, grwpiau darllen, grwpiau sgwrsio, digwyddiadau awduron ac ati.  

Bydd Cyngor Wrecsam yn ymchwilio ac yn gweithio gyda chymunedau, budd-ddeiliaid â diddordeb, gwirfoddolwyr a gweithredu dulliau amgen o ddarparu lle bo’n bosibl.

Bydd y Llyfrgelloedd a’r Ganolfan Adnoddau Cymunedol a reolir gan Gyngor Wrecsam yn glynu at Safonau’r Gymraeg ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. 
 

Lliniaru Mesurau yn nhermau Safonau’r Gymraeg

Mae Cyngor Wrecsam a Swyddog Strategol y Gymraeg wedi ymrwymo i: 

  • Weithio gyda thrydydd partïon sydd wedi mynegi diddordeb i reoli a pharhau i ddarparu’r ddarpariaeth Gymraeg gyfredol ymhob llyfrgell a lleoliadau canolfan adnoddau, drwy weithio gyda sefydliadau eraill megis Menter Iaith Fflint a Wrecsam, yn ogystal â gwirfoddolwyr. 
  • Weithio gyda thrydydd partïon sydd wedi mynegi diddordeb i reoli a pharhau i ddarparu’r mynediad i lyfrau ac adnoddau Cymraeg gan y Llyfrgell Pop Up Gymraeg, drwy weithio gyda sefydliadau eraill megis Menter Iaith Fflint a Wrecsam, yn ogystal â gwirfoddolwyr.  

Sefydliadau Partner Cymraeg

Rhestr yw hon o sefydliadau sy’n cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg naill ai yn wirfoddol, neu drwy llywodraethu, a neu rôl strategaethol wrth sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol. 

Mae sawl un yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Wrecsam, yn ogystal â’n pum Canolfan Adnoddau Cymunedol:

  • Coleg Cambria 
  • Golwg / Lingo Newydd 
  • Ysgolion Cynradd, Uwchradd ac Arbenigol yr Awdurdod Lleol 
  • Menter Iaith Fflint a Wrecsam 
  • Merched y Wawr 
  • Mudiad Ysgolion Meithrin 
  • Siop y Siswrn 
  • Urdd Gobaith Cymru – Fflint a Wrecsam 
  • Comisiynydd y Gymraeg 
  • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam