Mae ein gwasanaeth llyfrgell yn darparu llyfrau, adnoddau digidol, gofod astudio, a mynediad at grwpiau a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer pobl o bob oed.
Mae ein canolfannau adnoddau yn darparu gofod ar gyfer grwpiau cymunedol lleol a gweithgareddau.
Rydym yn cydnabod bod llyfrgelloedd a chanolfannau yn gwneud cyfraniad sylweddol i les y rhai sy’n eu defnyddio.
Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam
Oherwydd toriadau parhaol mewn cyllid gan y llywodraeth, mae rhaid i ni ddod o hyd i £185,000 o leiaf o doriadau i’n Gwasanaethau Llyfrgell a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol.
Mae’n rhaid i ni wneud mwy gyda llai yn dilyn dros ddegawd o ostyngiad mewn cyllid yn ogystal â chostau uwch, chwyddiant, cynnydd mewn cyfraddau llog, a mwy o breswylwyr sydd angen ein cefnogaeth.
Felly, mae’n rhaid i ni ailystyried sut yr ydym yn gwneud pethau, ac mae hyn yn cynnwys ystyried ein gwasanaeth llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol.
Sut y gallwch chi gymryd rhan?
Dweud eich dweud ar-lein
Yn ogystal â chymryd rhan ar-lein, gallwch hefyd gasglu copïau papur o’n eich llyfrgell leol a’n canolfannau adnoddau.