Lluniwyd ASTUTE 2020 i sbarduno twf yn y sector gweithgynhyrchu ledled Cymru trwy gymhwyso technolegau peirianneg uwch i heriau gweithgynhyrchu, gan hybu Ymchwil, Datblygiad ac Arloesedd blaengar (RD&I).
Cymorth busnes, dinas-ranbarthau, twristiaeth, digidol, band eang a’r rhwydwaith symudol, gwyddoniaeth
Yn cefnogi busnesau Cymru
Gall Arbenigedd Cymru eich helpu i nodi ac i hysbysebu cyfleoedd i gydweithio, ac i ddysgu mwy am yr amryfal fathau o gymorth sydd ar gael i'ch helpu gyda'ch prosiectau arloesol.
Mae Cymru Iach ar Waith yn raglen gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd yn dilyn adolygiad y Fonesig Carol Black ynglŷn â chostau absenoldeb salwch ar unigolion, cyflogwyr, y diwydiant gofal iechyd, a’r economi ehangach.
Platfform sy’n weithredol ar draws y DU sy’n ymgysylltu prynwyr a gwerthwyr o ddefnyddiau adeiladu ar farchnadfa ar-lein dryloyw a chystadleuol.
Mae Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Swydd Gaer yn sefydliad nad er elw sy’n ceisio cefnogi pob math o fusnes, o fasnachwyr unigol i sefydliadau mawr.
Ydych chi’n ystyried dechrau eich busnes eich hun? Neu efallai eich bod chi eisoes wedi dechrau ymchwilio i’r posibilrwydd o weithio i chi’ch hun, ond bod angen ychydig o arweiniad arnoch? Gall PRIME Cymru eich helpu chi.
Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yw’r Asiantaeth Gefnogaeth Genedlaethol ar gyfer Datblygu Cwmni Cymdeithasol. Maent yn cynorthwyo busnesau i gyflawni statws Cwmni Cymdeithasol a thyfu fel cyflogwyr proffidiol, cefnogol.
Yn ystod y cyfnod heriol hwn, rydyn ni yma i’ch helpu chi a busnesau eraill Cymru i roi’r digidol wrth galon eich busnes er mwyn sicrhau’r gwerthiant gorau posib.
Asiantaeth ddatblygu yw Cwmpas sy’n gweithio i greu newid er gwell, yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.