Gydag 1 o bob 5 cais am forgais yn cael eu gwrthod yn y DU, mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud i wella eich cyfleoedd o fod yn llwyddiannus.
Mae morgais yn aml yn hanfodol i brynu cartref neu fflat; dim ond ychydig o bobl sy’n gallu prynu eiddo yn llwyr neu sy’n brynwyr gydag arian parod.
Ni fydd llawer o werthwyr tai yn gadael i chi weld eiddo hyd yn oed oni bai eich bod wedi cael cymeradwyaeth ar gyfer morgais neu fod penderfyniad wedi ei wneud mewn egwyddor.
Mae yna nifer o ffactorau sy’n effeithio ar eich cais am forgais, fel eich incwm, eich sgôr credyd a’ch statws cyflogaeth. Fe all cael trefn ar y rhain helpu i wella eich cyfleoedd o gael cymeradwyaeth a phrynu’r eiddo yr ydych ei eisiau.
Dewch o hyd i forgais sy’n addas i chi
Fe fydd angen i chi ystyried hyd y cytundeb y dylech fynd amdano, p’run ai a ydych yn chwilio am rywbeth sefydlog neu dros 3, 5 neu hyd yn oed 40 mlynedd.
Fe allwch wneud cais am forgais yn uniongyrchol gyda’ch banc neu unrhyw fanc stryd fawr arall. Mae’n well gan rai pobl ddefnyddio broceriaid morgais i gael yr ystod lawn o gynigion gan yr holl fanciau, benthycwyr preifat, sefydliadau ariannol, cymdeithasau adeiladu a banciau herio.
Mathau o forgeisi
Morgeisi cyfradd sefydlog
Prif nodwedd morgeisi cyfradd sefydlog yw y byddwch yn talu’r un gyfradd log ar gyfer cyfnod cyfan eich morgais, waeth beth fo’r newidiadau mewn cyfraddau llog a orfodir gan Fanc Lloegr.
Y cyfnodau mwyaf cyffredin ar gyfer morgeisi cyfradd sefydlog yw dwy a phum mlynedd. Wedi i chi gyrraedd diwedd eich cyfnod sefydlog, byddwch yn cael eich symud fel arfer i gyfradd amrywiadwy eich benthyciwr.
Morgeisi cyfradd amrywiadwy
Mae morgais cyfradd amrywiadwy neu addasadwy yn un lle gall y gyfradd log gynyddu neu leihau yn unol â’r gyfradd sail y mae wedi ei chysylltu â hi.
Os oes gennych chi forgais cyfradd amrywiadwy, fe fydd eich taliadau misol yn amrywio yn unol â’r gyfradd honno am gyfnod eich cytundeb cychwynnol.
Sut i gynyddu eich cyfleoedd o gael cymeradwyaeth
Sicrhewch fod eich hanes o ran credyd mewn trefn
Y gorau yw eich hanes o ran credyd yna’r mwyaf ffafriol y bydd benthyciwr yn ystyried eich cais.
Y tair prif asiantaeth gredyd y gallwch wirio eich adroddiad credyd gyda nhw yw:
- Equifax
- Experian
- Transunion
Gwiriwch eich adroddiad credyd yn ofalus, sylwch ar unrhyw gamgymeriadau ac yna cywirwch nhw gydag asiantaeth gredyd. Fe allai camgymeriad ostwng eich sgôr a niweidio eich gallu i gael credyd, gan gynnwys morgais.
Os nad yw eich hanes o ran credyd yn gryf iawn fe all gymryd ychydig o amser i’w feithrin. Fel arfer mae’n well gan fenthycwyr ymgeiswyr gyda sgôr credyd uwch, gan ei fod yn dangos eu bod yn ddibynadwy.
Cynyddwch faint eich blaendal
Mae’r blaendal lleiaf y mae angen i chi ei gynilo yn y farchnad bresennol fel arfer yn 5% o bris prynu’r eiddo.
Fodd bynnag, os y gallwch gael blaendal morgais mwy fe fydd hyn yn cynyddu’r siawns y bydd eich cais yn llwyddiannus. Fe all hyn hefyd olygu eich bod yn fwy tebygol o gael eich cymeradwyo ar gyfer gwell cynigion morgais gyda chyfraddau llog is.
Gostyngwch eich cymhareb dyled i incwm
Mae eich cymhareb dyled i incwm yn cymharu cyfanswm y ddyled sydd gennych gyda’ch incwm cyffredinol. Mae benthyciwr yn edrych ar eich cymhareb dyled i incwm i fesur eich gallu i wneud ad-daliadau misol, ac i bennu faint y gallwch ei fforddio.
Y ffordd orau o ostwng y gymhareb cyn gwneud cais am forgais yw i dalu unrhyw ddyledion sydd heb eu talu.
Mae’n well gan fenthycwyr weld cymarebau dyled i incwm sy’n 36% neu’n is, gyda dim mwy na 28% o’r ddyled honno yn mynd tuag at daliadau morgais.
Os ydych chi’n hunangyflogedig
Pan rydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud cais am forgais, fel arfer fe ddylai fod gennych o leiaf dwy flynedd o hanes masnachu neu gyfrifon.
Yn ddelfrydol byddwch yn ‘gadarnhaol o ran arian’ neu â busnes proffidiol gan y bydd hyn yn creu hyder ar gyfer darpar fenthycwyr a darparwyr morgais. Fodd bynnag, os nad ydych yn gwneud elw, nid yw hyn o reidrwydd yn rheswm i gael eich gwrthod, gan fod rhai busnesau bach neu fusnesau newydd yn aml yn gwneud colledion cyn gwneud elw mawr.
Gwneud cais am forgais
Unwaith yr ydych wedi dod o hyd i forgais addas ac wedi cynyddu eich siawns o gael eich cymeradwyo, mae’n bosibl y byddwch eisiau gwneud cais ‘mewn egwyddor’. Mae hyn yn golygu y bydd benthyciwr yn cytuno ‘mewn egwyddor’ i roi morgais i chi, yn ddibynnol ar wiriadau terfynol a chymeradwyo’r eiddo yr ydych yn bwriadu ei brynu.
Unwaith y mae eich cynnig ar eiddo wedi ei dderbyn, fe allwch wneud cais yn ffurfiol am eich morgais.
Fe fydd angen i chi baratoi’r dogfennau sydd eu hangen, gan gynnwys prawf o bwy ydych chi, eich cyfeiriad a’ch cyflogaeth. Hefyd bydd angen eich cyfriflenni banc a chredyd arnoch.