Adroddiad y Cyfarwyddwr

Eleni, mae fy adroddiad wedi'i gyflwyno mewn ffordd wahanol i'r adroddiadau blynyddol blaenorol gan ein bod yn dilyn fformatau newydd sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi ceisio ysgrifennu'r adroddiad mewn ffordd sy'n haws i gwsmeriaid, er mwyn annog mwy o bobl i'w ddarllen. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ynglŷn â chynnwys neu arddull yr adroddiad, fe hoffem eu clywed. Os felly, anfonwch e-bost at socialservicescustomerfeedback@wrexham.gov.uk.

Mae’r adroddiad blynyddol yn disgrifio rhai o’r cyflawniadau a’r gwelliannau allweddol sydd wedi bod yn Ngwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant yn Wrecsam o ran ein perfformiad wrth fodloni'r gofynion sydd arnom dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r adroddiad blynyddol yn seiliedig ar wybodaeth ac adborth amryw o wasanaethau, gan gynnwys hunanasesiad y Cyngor, gwybodaeth wedi’i darparu gan reoleiddwyr fel Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Swyddfa Archwilio Cymru drwy adborth ac argymhellion yn eu harolygon a’u hadroddiadau archwilio. Mae hefyd yn ystyried adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a phrosesau cwyno a chanmol. Hefyd, ymgynghorwyd ag aelodau ac asiantaethau partner (gan gynnwys y sector iechyd a’r trydydd sector) fel rhan o’r broses o ddrafftio’r adroddiad hwn ac mae eu sylwadau wedi’u cynnwys yn y fersiwn derfynol.

Mae’r adroddiad yn disgrifio sefyllfa o welliant parhaus ar draws y gwasanaethau cymdeithasol cyfan, er gwaethaf yr heriau rydym yn eu hwynebu mewn perthynas â galw cynyddol am ein gwasanaethau mewn oes o lai o gyllid. Rydym yn ymwybodol y bydd yr heriau hyn, mewn perthynas â gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn parhau ac fe fyddwn yn addasu ac yn llunio ein gwasanaethau gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau o safon uchel.

Mae’r adroddiad ar gael mewn fformatau ychwanegol hefyd. Mae fersiynau hawdd i’w darllen ac adroddiad sain ar gael ar CD ar gais, drwy anfon e-bost i socialservicescustomerfeedback@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 297421. 

Adroddiad Blynyddol Cwynion a Chanmoliaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol

Yn dilyn cyflwyno Gweithdrefn Gwynion Statudol ddiwygiedig y Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Awst 2014, mae’n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru lunio Adroddiad Blynyddol ar Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dylid cyflwyno'r adroddiad hwn i'r Pwyllgor Craffu priodol a dylai fod ar gael i'r cyhoedd. Yn flaenorol, roedd adroddiadau’n cael eu cynhyrchu a’u defnyddio o fewn yr adran yn unig fel rhan o agenda Rheoli Perfformiad ehangach.

Bydd adroddiad 2022/23 yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst 2023. I gael copïau o adroddiadau blaenorol, e-bostiwch complaints@wrexham.gov.uk.