Os ydych yn gyfreithiwr trydydd parti yn ymholi am ein manylion polisi yswiriant a rhif adnabod y Porth:
- Ar gyfer ceisiadau Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, ein hyswirwyr yw Zurich Municipal, rhif y polisi yw QLA O4U 022 0023 a rhif adnabod porth y digolledwyr yw C00108.
- Am geisiadau Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus wedi digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015, ein hyswirwyr yw QBE Insurance (Europe) Ltd., rhif polisi Y103901QBE0116A 022 0013 a rhif adnabod y porth cydadferydd D00019”
- Am geisiadau Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus wedi digwydd cyn 1 Ebrill 2015, ein hyswirwyr yw Zurich Municipal, rhif polisi QLA O4U 022 0013 a rhif adnabod y porth cydadferydd C00108.
Ffurflen cofnodi digwyddiad: nodiadau cyfarwyddyd
Mae’n bwysig eich bod chi’n darllen y nodiadau cyfarwyddyd hyn yn ofalus cyn llenwi’r ffurflen hon.
Sylwch, pan fo ‘ein’ a ‘ni’ yn cael eu defnyddio yn y testun canlynol, mae hyn yn cyfeirio at Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Sylwch:
- Mae gennych hawl i ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol ar unrhyw gam yn ystod prosesu’r ffurflen hon.
- Cyflwynir a derbynnir y ffurflen hon gennym ni heb leihau effaith unrhyw atebolrwydd ar ein rhan.
- Peidiwch â defnyddio’r ffurflen hon at unrhyw ddiben arall heblaw am roi gwybod i ni am y digwyddiad hwn.
Dychwelwch y Ffurflen Cofnodi Digwyddiad wedi’i llenwi at insurance@wrexham.gov.uk. Fel arall, gallwch bostio’r ffurflen wedi’i chwblhau i:
Y Gwasanaethau Yswiriant
Yr Adran Gyllid
Lambpit Street
Wrecsam, LL11 1AY