Yng nghanol y straen o gynllunio i symud, mae’n rhwydd anghofio pwy i roi gwybod iddynt ynglŷn â’r newid i’ch cyfeiriad. Unwaith y byddwch yn gwybod eich bod yn mynd i symud, lluniwch restr o bwy y mae angen i chi gysylltu â nhw - i osgoi’r straen a’r perygl ychwanegol o dwyll hunaniaeth.
Pwy i roi gwybod iddynt
Isod mae enghreifftiau o fathau cyffredin o gwmnïau / sefydliadau fydd angen gwybod am newid cyfeiriad.
Efallai y bydd rhai cwmnïau, fel eich darparwr ynni, yn gofyn am gyfnod penodol o rybudd cyn i chi symud er mwyn iddynt allu gweithredu'r newidiadau.
Dyma rai o’r cwmnïau/ sefydliadau eraill y gallai fod angen i chi roi gwybod iddynt...
- Clybiau a sefydliadau rydych yn aelodau ohonynt
- Gweithredwyr rhwydweithiau symudol
- Tanysgrifiadau neu ddanfoniadau rheolaidd