Cynhadledd ginio busnes am ddim i’w gynnal yng Ngwesty’r Ramada Plaza yn Wrecsam ar ddydd Gwener 27 Medi 2024 rhwng 9.45am a 2.30pm.
Os ydych yn weithiwr busnes proffesiynol, hoffai ein Tîm Busnes a Buddsoddi eich gwahodd i ymuno â chynhadledd ‘Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam 2024'; cynhadledd fusnes ysgogol ac ysbrydoledig yn cynnwys amrywiaeth o destunau busnes.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim - wedi’i gefnogi gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (conglfaen i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o arian i’w fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025). Am fwy o wybodaeth, ewch i: GOV.UK: Prosbectws y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (dolen gyswllt allanol)
Dylid gwisgo dillad smart / ffurfiol.
Pwrpas y gynhadledd
Yn ffurfio rhan o waith parhaus Cyngor Wrecsam i greu amodau ar gyfer twf busnes lleol; mae Elevate your Business 2024 yn Wrecsam â’r nod o alluogi cynnydd.
Prif nod y gynhadledd yw cynorthwyo datblygiad parhaus economi lleol mwy ffyniannus, arloesol a chynhyrchiol sy’n ddoeth, wedi cysylltu ac yn gadarn.
Yn ogystal â chyflawni canlyniadau dysgu gwerthfawr, creu cyfleoedd, galluogi creadigrwydd neu gryfhau cadwyni cyflenwi lleol ac ysgogi posibiliadau twf, gallwch fanteisio o’r canlynol trwy fynychu’r gynhadledd:
- Cyngor, gwybodaeth a chanllawiau arbenigol i’ch helpu i dyfu eich busnes
- Y cyfle i glywed yn bersonol gan ddetholiad o arweinwyr busnes uchel eu parch
- Y cyfle i adeiladu eich rhwydwaith fusnes trwy ffurfio cysylltiadau gwerthfawr gydag ystod eang o weithwyr busnes proffesiynol, yn amrywio o fentrau micro i gynrychiolwyr cwmnïau o’r radd flaenaf
- Gostyngiadau, cynigion a chymhellion arbennig gan fusnesau lleol
- Cyfle i ennill nifer o becynnau gwobrau