Yn gyfreithiol, dan 'borth adran 75(3)', mae aelwydydd digartref, y mae ganddynt blant a phobl ifanc, yn gymwys ar gyfer y ddyletswydd tai lawn hyd yn oed os daeth yr ymgeisydd yn ddigartref yn fwriadol.
Mae ymgeisydd yn ddigartref yn fwriadol os yw wedi gwneud rhywbeth yn fwriadol, neu heb wneud rhywbeth yn fwriadol, yr oedd yn gwybod y gallai arwain at ddod yn ddigartref.
Yr aelwydydd sydd wedi’u cynnwys yw:
- Person y mae plentyn dibynnol yn byw gydag ef, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef.
- Menyw feichiog neu berson y mae'n byw gydag ef, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi fyw gydag ef.
- Person a oedd dan 21 oed pan wnaed y cais am ddigartrefedd, neu berson y mae'r person ifanc hwnnw'n byw gydag ef, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef.
- Person rhwng 21 a 24 oed pan wnaed y cais am ddigartrefedd, a oedd yn derbyn gofal, yn lletya neu’n cael ei faethu tra oedd dan 18 oed neu berson y mae'r person ifanc hwnnw'n byw gydag ef, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef.
Mae hyn yn golygu y bydd y ddyletswydd adran 75 yn ddyledus i ymgeiswyr sy’n perthyn i unrhyw un o’r pedwar categori uchod, hyd yn oed os yw eu cyfnod presennol o ddigartrefedd yn fwriadol.
Eithriadau – ailadrodd bwriadoldeb o fewn 5 mlynedd
Mae hyn yn golygu na fydd y ddyletswydd lawn yn ddyledus i ymgeisydd yr eilwaith os yw'r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- Rydym wedi penderfynu ystyried bwriadoldeb ar gyfer person sydd ag Angen Blaenoriaethol.
- Yn flaenorol, gwnaethom gynnig llety dan y ddyletswydd lawn adran 75, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, pan oedd yr ymgeisydd yn ddigartref yn fwriadol a dim ond yn gymwys ar gyfer y brif ddyletswydd oherwydd y porth adran 75(3).
Deddfwriaeth berthnasol
Mae diwygiadau i reoliadau 2015 hefyd yn golygu bod 11eg categori o ymgeiswyr a all fod ag Angen Blaenoriaethol bellach yn cynnwys "person sy'n cysgu ar y stryd" ac y gellir cymhwyso bwriadoldeb i'r categori hwn.
Mae'r hysbysiad cyhoeddus hwn yn gadarnhad ein bod ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn cymhwyso digartrefedd bwriadol i'r 11eg categori hwn dan ein dyletswydd.
Deddfwriaeth berthnasol
Mwy o wybodaeth
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am hyn, gallwch siarad â Swyddog Opsiynau Tai neu, am gyngor annibynnol, gallwch gysylltu â Shelter Cymru (dolen gyswllt allanol).