Os ydych yn ddigartref neu’n poeni o fod mewn risg o fod yn ddigartref...

Gallwch ffonio ein tîm Dewisiadau Tai unrhyw adeg ar 01978 292947.

Os ydych yn unigolyn ifanc dan 18 oed ac yn ddigartref, neu’n poeni am ddod yn ddigartref, gallwch ffonio 01978 292039 ar unrhyw adeg.

Gallwn bob amser gynnig cyngor, a byddwn yn ceisio darparu cymorth pellach lle bynnag bo’n bosibl.

Sefydliadau y gallwch gysylltu â hwy i gael cyngor 

Shelter Cymru

Mae cynghorwyr Shelter Cymru yn arbenigwyr mewn cyfraith tai.

Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth

Mae Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, yn bersonol ar ystod o faterion – gan gynnwys materion tai.

Mae manylion cyswllt ac oriau agor eu gwasanaeth galw heibio wedi’u rhestru yn nhudalen Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Wrecsam.

Yn ogystal gallwch gysylltu â chynghorydd drwy eu gwasanaeth ffôn cenedlaethol ‘Adviceline’ ar 03444 111 444 (ar gael rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener).

Uned Ddiogelwch Trais Teuluol (DASU)

Mae DASU yn elusen sydd yn darparu cyngor a chymorth i ddynion, merched a phlant sydd yn cael eu heffeithio gan gamdriniaeth domestig.

Os ydych yn pryderu am rhywun sydd yn cysgu allan... 

Gallwch ddefnyddio’r dull isod i helpu ein rhybuddio a/ gwasanaethau estyn allan am bobl a all fod yn cysgu allan ac eisiau cymorth.

Streetlink

Gallwch ddefnyddio gwefan Streetlink neu ap symudol Streetlink i anfon rhybudd ynghylch rhywun yr ydych yn pryderu amdano sydd yn cysgu allan. Mae darparu gymaint o fanylion â phosibl yn rhoi siawns gwell i’r tîm estyn allan yn ardal Wrecsam leoli’r unigolyn a chynnig cymorth.

Cysylltwch â ni’n uniongyrchol

Gallwch ffonio ein tîm Dewisiadau Tai unrhyw adeg ar 01978 292947. 

Pa gynllun sydd gennym i helpu pobl digartref mewn tywydd oer garw? 

Protocol Brys mewn Tywydd Garw (SWEP)

Mae’r Protocol Brys mewn Tywydd Garw (SWEP) yn amlinellu’r mesurau sydd mewn lle gennym ni a’n prif bartneriaid i bobl sydd yn cysgu allan yn Wrecsam yn ystod tywydd oer garw.