Bydd pob disgybl yn cael ei dderbyn os nad yw'r Nifer Derbyn wedi ei gyrraedd.  

Fodd bynnag, os yw'r Nifer Derbyn wedi ei gyrraedd, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio, a restrir yn nhrefn blaenoriaeth.

Bydd unrhyw blentyn y mae’r ysgol wedi eu henwi mewn Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig / Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn cael eu derbyn cyn defnyddio’r meini prawf mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael.

Meini prawf

Meini prawf i’w defnyddio gan yr awdurdod lleol, yn ôl trefn blaenoriaeth, ar gyfer derbyniadau i ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd:

  1. Plant sy’n derbyn gofal neu blant sydd wedi derbyn gofal yn y gorffennol
  2. Plant sydd ag anghenion meddygol eithriadol, neu anghenion addysgol sydd, ym marn yr Awdurdod Derbyn, yn cyfiawnhau eu derbyn i ysgol benodol
  3. Plant y mae eu rhieni’n dewis ysgol sydd yr ysgol addas agosaf i gyfeiriad cartref y disgybl, gan roi blaenoriaeth i ddisgyblion sy’n bodloni maen prawf (4) isod
  4. Disgyblion fydd â brawd neu chwaer yn mynychu’r ysgol o’u dewis ar y dyddiad derbyn disgwyliedig. Dim ond ar gyfer y cyfnod addysg statudol (hyd at Flwyddyn 11) y defnyddir y ‘rheol brawd a chwaer’
  5. Plant eraill nad yw meini prawf 1 i 4 uchod yn berthnasol iddynt

Os oes mwy o ymgeiswyr nag o lefydd yn unrhyw un o’r categorïau uchod, rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw agosaf i’r ysgol, gyda’r pellter wedi’i fesur o gyfeiriad cartref y plentyn i brif fynedfa gydnabyddedig yr ysgol. Mae’r pellteroedd yn cael eu cyfrifo trwy ddefnyddio System Mapio Daearyddol yr Awdurdod Lleol.

Os nad yw’r awdurdod yn gallu diwallu dewis(iadau) rhiant, gofynnir i’r rhiant ystyried llefydd sydd ar gael mewn ysgolion eraill.

Ysgol briodol agosaf

Ar gyfer dyrannu llefydd dehonglir yr ysgol briodol agosaf fel a ganlyn:

  • Yr ysgol Awdurdod Lleol agosaf i gartref y plentyn a fesurir o gyfeiriad cartref y plentyn i’r ysgol yn ôl y llwybr cerdded cyflymaf
  • Yr ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf i gartref y plentyn a fesurir o gyfeiriad cartref y plentyn i’r ysgol yn ôl y llwybr cerdded cyflymaf; lle mae rhieni’n dymuno i’w plant gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Yr ysgol enwadol agosaf lle mae rhieni’n dymuno i’w plant gael eu haddysg mewn ysgol enwadol

Wrth benderfynu ar yr ‘ysgol addas agosaf’, bydd yr Awdurdod yn derbyn cyfeiriad cartref y disgybl yn unig ac nid cyfeiriad gwarchodwr plant, ffrind neu daid a nain, er enghraifft.