Gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin
Mae darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar ac ysgolion cynradd yn Wrecsam yn darparu addysg feithrin cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg ac mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion gwirfoddol a reolir.
Cynigir addysg feithrin ar sail sesiwn ddwy awr a hanner bum gwaith yr wythnos yn ystod blwyddyn ysgol 2025/2026.
Dylech lenwi ffurflen gais awdurdod lleol Wrecsam i wneud cais am le mewn ysgol, fodd bynnag mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais yr ysgol ei hun hefyd (gweler y wybodaeth ychwanegol isod am ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion sefydledig ac ysgolion y tu allan i'r sir).
Ble bynnag yr ydym yn cyfeirio at ‘ein cais’ ar y dudalen hon mae hyn yn golygu ffurflen gais yr awdurdod lleol – oherwydd mai Cyngor Wrecsam yw'r awdurdod derbyn lleol ar gyfer ysgolion cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Gall rhieni mewn gwaith sy’n gymwys ac yn byw yn Wrecsam wneud cais ar gyfer y cynnig gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant tair a phedair oed (sy'n cynnig cyfuniad o naill ai le mewn Dosbarth Meithrin neu Addysg Gynnar wedi'i Hariannu, a gofal plant).