Gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn

Ymgeisiwch rŵan

Mae amrywiaeth o ysgolion yn Wrecsam yn darparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, chyfrwng Saesneg ac mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion gwirfoddol a reolir.

Dylech lenwi ffurflen gais awdurdod lleol Wrecsam i wneud cais am le mewn ysgol, fodd bynnag mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais yr ysgol hefyd (gweler y wybodaeth ychwanegol isod am ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion sefydledig ac ysgolion y tu allan i'r sir.

Ble bynnag yr ydym yn cyfeirio at ‘ein cais ni’ ar y dudalen hon mae hyn yn golygu ffurflen gais yr awdurdod lleol – oherwydd mai Cyngor Wrecsam yw'r awdurdod derbyn lleol ar gyfer ysgolion cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Pryd a sut alla’i wneud cais?

Agorodd y ceisiadau am le mewn dosbarth derbyn yn yr ysgol i’ch plentyn ar Medi 23, 2024. Mae llefydd ar agor i blant a fydd wedi cael eu pen-blwydd yn bedair oed cyn neu ar Awst 31, 2025.

Gallwch wneud ymgeisiwch rŵan – dyma’r ffordd gyflymaf a rhwyddaf i wneud cais (ar-lein). Byddwch hefyd yn cael e-bost yn rhoi gwybod i chi bod eich cais wedi’i dderbyn.

Mae ceisiadau bapur ar gael drwy anfon ebost i admissions@wrexham.gov.uk.

Dylech anfon y ffurflen gais wedi’i llenwi at Swyddog Derbyniadau’r Awdurdod Lleol, Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam LL13 8BG.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd Tachwedd 18, 2024. 

Ceisiadau hwyr

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau.

Er bod modd cyflwyno cais ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (Chwefror 24, 2025) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (Ebrill 16, 2025).

Gwneud cais am le mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

Os ydych yn gwneud cais am le mewn Ysgol Gatholig neu Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru, efallai y bydd yr ysgol hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais ychwanegol a am wybodaeth atodol. Os felly bydd angen i chi lenwi a dychwelyd eu ffurflen gais nhw yn ogystal a chwblhau ein cais ar-lein (neu bapur) ni.

Dylech wirio’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar unrhyw ffurflenni cais ar wahân sydd gan yr ysgolion gan ei bod yn bosib y bydd y dyddiad yn wahanol.

Gwneud cais ar gyfer ysgolion y tu allan i’r sir

Bydd yn rhaid i chi gysylltu a’r awdurdod derbyniadau priodol ar gyfer yr ysgol y tu allan i’r sir.

Byddem yn dal i'ch cynghori i lenwi ein cais ar-lein (neu bapur), gan nodi eich ffafriaeth ar gyfer ysgol a gynhelir ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, hyd yn oed os mai eich dewis cyntaf yw ysgol y tu allan i Fwrdeistref Sirol Wrecsam neu ysgol annibynnol. Dylid gwneud hyn rhag ofn nad yw’r cais i’r dewis rydych yn ei ffafrio yn aflwyddiannus.

Byddwn ni (fel eich awdurdod lleol) wedyn yn casglu’r wybodaeth hon ac yn ei throsglwyddo i’r awdurdodau lleol cyfagos: Sir y Fflint a Sir Ddinbych.

Efallai y bydd gan ysgolion y tu allan i’r sir ac ysgolion annibynnol amserlen dderbyn wahanol i Gyngor Wrecsam felly bydd angen i chi gysylltu â nhw a gwirio hynny gyda’r awdurdod derbyn perthnasol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn methu’r dyddiad cau.

A gaf ddweud pa ysgol fyddai orau gennyf?

Gallwch ddweud pa ysgol/ysgolion fyddai orau gennych yn eich cais.

Argymhellir eich bod yn dewis mwy nag un ysgol gan roi'r ysgol fyddai orau gennych chi ar frig y rhestr a'r ail, trydydd ac ati wedyn, rhag ofn y byddwch yn aflwyddiannus yn eich cais/ceisiadau i'r ysgol/ysgolion fyddai orau gennych.

Ni fydd rhestru yr un ysgol sawl gwaith yn rhoi gwell siawns o gael cynnig yr ysgol honno.

Beth sy’n digwydd wedi imi wneud cais?

Pwy sy’n penderfynu? 

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn ysgol gynradd gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir, bydd eich cais yn cael ei ystyried gan Cyngor Wrecsam, fel yr awdurdod derbyn lleol.

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn Ysgol Gatholig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru bydd eich cais yn cael ei ystyried gan gorff llywodraethu'r ysgol honno.

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn ysgol y tu allan i Sir Wrecsam, bydd eich cais yn cael ei ystyried gan awdurdod derbyn perthnasol yr ysgol. 

Pryd a sut fydda i’n cael gwybod am le fy mhlentyn mewn dosbarth derbyn? 

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir byddwn yn rhoi gwybod i chi erbyn Ebrill 16, 2025 a yw eich plentyn wedi cael cynnig lle mewn dosbarth derbyn yn yr ysgol yr ydych yn ei ffafrio ai peidio.

Os ydych wedi dweud wrthym eich bod eisiau clywed drwy e-bost byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost, fel arall byddwn yn anfon llythyr atoch.

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys Gatholig neu’r Eglwys yng Nghymru, byddwch yn cael llythyr gan gorff llywodraethu'r ysgol erbyn Ebrill 16, 2025.

Cyngor a dogfennau

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth am y broses dderbyn gallwch ddarllen ein canllaw ar gyfer rheini

Cludiant i’r Ysgol

Unwaith y byddwch wedi cael gwybod am le eich plentyn mewn ysgol, efallai y byddwch eisiau gwneud cais am gludiant i'r ysgol.

Proses Apeliadau

Os nad yw eich plentyn wedi cael cynnig lle yn un o'r ysgolion yr oeddech yn eu ffafrio yna gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Mae’n rhaid cyflwyno apêl yn ysgrifenedig, gan nodi’r rheswm (rhesymau) llawn pam eich bod yn dymuno apelio gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ategol.

Y dyddiad cau ar gyfer apeliadau yw Mai 2, 2025.