Gwneud cais am Addysg Gynnar wedi’i Hariannu

Ymgeisiwch rŵan

Gallai plant sy’n byw yn Wrecsam fod yn gymwys i gael 10 awr o Addysg Gynnar wedi’i Hariannu, gan ddibynnu ar ba bryd y cânt eu pen-blwydd.  I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr, darperir lleoedd wedi’u hariannu yn nhymhorau’r Gwanwyn a’r Haf.  I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth, darperir lleoedd wedi’u hariannu yn nhymor yr Haf.

Mae plant a anwyd ar 1 Ebrill neu wedi hynny’n derbyn eu haddysg yn nosbarthiadau meithrin yr ysgolion yn nhymor yr Hydref ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.

Beth yw'r cynnig?

Gallwch gael mynediad at hyd at 30 awr yr wythnos o Addysg Gynnar wedi’i Hariannu neu Feithrinfa yn ogystal â gofal plant sydd wedi ei ariannu gan y llywodraeth wedi cyfuno am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae’r elfen Addysg Gynnar wedi’i Hariannu hon yn ffurfio 10 awr o'r cynnig 30 awr.

Nid yw sicrhau lle Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn rhoi lle meithrin awtomatig i chi mewn ysgol yn Wrecsam. Rhaid i chi wneud cais am le meithrin ar wahân.

Pryd a sut y gallai wneud cais am Addysg Gynnar wedi'i Hariannu?

Gallai plant sy’n byw yn Wrecsam fod yn gymwys i gael 10 awr o Addysg Gynnar wedi’i Hariannu, gan ddibynnu ar ba bryd y cânt eu pen-blwydd.  I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr, darperir lleoedd wedi’u hariannu yn nhymhorau’r Gwanwyn a’r Haf.  I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth, darperir lleoedd wedi’u hariannu yn nhymor yr Haf.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael addysg gynnar yn ystod tymor y gwanwyn a’r haf gallwch wneud cais o’r Medi 2, 2024 ymlaen ac mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud cais erbyn Hydref 25, 2024 i gael lle i'ch plentyn nhymor y gwanwyn (Ionawr) 2025.

Os yw eich plentyn chi yn gymwys ar gyfer tymor yr haf yn unig, gallwch wneud cais o Hydref 28, 2024 ymlaen a bydd rhaid i chi fod wedi gwneud cais erbyn Rhagfyr 29, 2024 i gael cynnig lle ar gyfer tymor yr haf (Ebrill) 2025.

Bydd y ddau dderbyniad yn parhau ar agor ond bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiadau cau uchod yn geisiadau hwyr.

Gallwch wneud cais ar-lein ar gyfer Addysg Gynnar wedi’i Hariannu.  Fel arall, mae ceisiadau bapur ar gael drwy anfon ebost fundedearlyeducation@wrexham.gov.uk.

Rhowch y dechrau gorau i’ch plentyn

Yn Wrecsam rydym wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn addysg i'n plant ieuengaf. Mae Plant mewn Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn dysgu trwy chwarae, yn unol â’r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin wedi’i Hariannu yng Nghymru.

Mae ymchwil yn Wrecsam wedi profi bod plant tair oed mewn Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn mynd ymlaen i gyflawni canlyniadau uwch, ar ddiwedd blwyddyn chwech, na’r rhai nad ydynt yn manteisio ar y cynnig.

Mae manteision Addysg Gynnar wedi’i Hariannu i’ch plentyn yn cynnwys...

  • dysgu sgiliau newydd
  • magu hyder
  • darganfod a datrys problemau
  • archwilio a defnyddio technoleg
  • datblygu annibyniaeth
  • datblygu creadigrwydd a dychymyg
  • dysgu siarad Cymraeg
  • gwneud ffrindiau
  • cael llawer o hwyl dan do ac yn yr awyr agored

Sut mae'n gweithio

Gall eich plentyn gael lle mewn lleoliad wedi’i ariannu ar gyfer naill ai:

  • Pum sesiwn yr wythnos, un y dydd, dwy awr o hyd, neu
  • Pedair sesiwn yr wythnos, un y dydd, dwy awr a hanner o hyd.

Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn y mae'r lleoliad cymeradwy o'ch dewis yn ei ddarparu.

Ariennir lleoliad cymeradwy i ddarparu Addysg Gynnar i blant tair oed a gall fod yn un o’r canlynol:

Lleoliad dynodedig...

  • Cylch chwarae
  • Meithrinfa ddydd breifat
  • Dosbarth meithrin neu uned blynyddoedd cynnar mewn ysgol leol.

Ariannu Addysg Gynnar

Dim ond mewn un lleoliad y gallwch wneud cais am le wedi'i Hariannu. Telir cyllid yn uniongyrchol i'r lleoliad.

Lleoliadau sy'n derbyn cyllid...

  • Rhaid cael staff â chymwysterau priodol
  • Bydd yn cael ei arolygu gan ESTYN ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Rhaid darparu'r sesiynau a nodir
  • Derbyn hyfforddiant rheolaidd

Lleoliadau Cymeradwy yn Wrecsam

Cyfrwng Cymraeg

  • Cylch Bryn Tabor
  • Cylch Llan y Pwll
  • Cylch Meithrin Bro Alun
  • Cylch Meithrin I D Hooson
  • Cylch Meithrin Min y Ddol
  • Cylch Meithrin Plas Coch
  • Ysgol Bodhyfryd
  • Ysgol Cynddelw
  • Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog
     

Cyfrwng Saesneg

  • Addysg Gynnar Heulfan
  • Addysg Gynnar Parc Borras
  • Addysg Gynnar Penycae
  • Addysg Gynnar St Giles
  • Canolfan Chwarae Owrtyn
  • Cylch Chwarae ‘’Cefn Mawr ‘Bright Stars’
  • Cylch Chwarae Acorns
  • Cylch Chwarae Bradley
  • Cylch Chwarae Dan 5 Holt
  • Cylch Chwarae Garden Village
  • Cylch Chwarae Gofal Plant Bangor-Is-y-Coed
  • Cylch Chwarae Happy Days Coedpoeth
  • Cylch chwarae Merffordd
  • Cylch Chwarae Treasure Chest, Llai 
  • Cylch Chwarae'r Waun
  • Dragons Day Care Tanyfron
  • Gofal Plant Acton
  • Gofal Plant Diwrnod Llawn New Broughton
  • Little Sunflowers
  • Meithrinfa Cherry Hill
  • Meithrinfa Cyn-ysgol y Santes Fair, Wrecsam
  • Meithrinfa Ddydd Caego a Berse
  • Meithrinfa Ddydd Homestead
  • Meithrinfa Ddydd Playland
  • Meithrinfa Ddydd Redbrook
  • Meithrinfa Ddydd Sparkles
  • Meithrinfa Kiddies World
  • Meithrinfa Little Scholars
  • Meithrinfa Mother Goose
  • Meithrinfa Peter Pan
  • Meithrinfa Rise and Shine
  • Meithrinfa Rossett House
  • Rhostyllen ABC
  • Victoria Gems, Jewels and Treasures
  • Ysgol Black Lane
  • Ysgol Borderbrook
  • Ysgol Bronington Eglwys Cymru a Gynorthwyir
  • Ysgol Brynteg
  • Ysgol Bwlchgwyn
  • Ysgol Cynddelw 
  • Ysgol Eyton
  • Ysgol Gatholig y Santes Anne
  • Ysgol Gwenfro
  • Ysgol Gynradd Froncysyllte
  • Ysgol Gynradd yr Holl Saint Eglwys Cymru a 
  • Gynorthwyir
  • Ysgol Maes y Llan
  • Ysgol Maes y Mynydd
  • Ysgol Minera
  • Ysgol Sant Chad Hanmer
  • Ysgol Sant Paul
  • Ysgol Wat’s Dyke
  • Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Pentre, y Waun
  • Ysgol y Garth
  • Ysgol y Santes Fair, Brymbo
  • Ysgol y Santes Fair, Rhiwabon
  • Ysgol Yr Hafod Johnstown