Beth yw asiantiaid cymunedol?

Mae asiantiaid cymunedol yn gweithio gydag unrhyw un dros 50 ac sy’n byw yn Wrecsam.  

Maent yn darparu mynediad hawdd at ystod eang o wybodaeth a fydd yn galluogi pobl dros 50 oed i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hanghenion rŵan ac yn y dyfodol i’w helpu i deimlo’n fwy annibynnol, yn fwy diogel a’u bod yn cael gofal, ac er mwyn iddynt gael gwell ansawdd bywyd. 

Mae Asiantiaid Cymunedol yn cefnogi pobl sy’n byw yn Wrecsam, ac maent yn pontio’r bwlch rhwng y gymuned leol a’r sefydliadau statudol neu wirfoddol. 

Mae Asiantiaid Cymunedol yn darparu trosolwg o wasanaethau sydd ar gael yn y sir ac yn cynnig cymorth i gael mynediad atynt.  

Dewch o hyd i asiant cymunedol yn eich ardal chi