Mae’r math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych gyda’ch landlord yn hanfodol o ran pennu’r hawliau penodol sydd gennych chi (er enghraifft faint o rybudd y dylech ei gael os gofynnir i chi adael).
Os nad oes gennych gytundeb ysgrifenedig gyda’ch landlord, nid yw hyn yn golygu nad oes gennych unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o gwbl, ond fe allai olygu bod eich hawliau yn gyfyngedig.
Mathau o gytundebau tenantiaeth
Y math o gytundeb tenantiaeth mwyaf cyffredin ar gyfer tenantiaid sy’n rhentu’n breifat yw tenantiaeth fyrddaliad sicr.
Tenantiaethau byrddaliad sicr
Mae’r rhan fwyaf o denantiaethau newydd yn denantiaethau byrddaliad sicr.
Rydych yn debygol o fod â thenantiaeth fyrddaliad sicr os yw’r canlynol yn berthnasol:
- fe symudoch i mewn ar neu ar ôl 28 Chwefror, 1997
- rydych yn talu rhent i landlord preifat
- nid yw eich landlord yn byw yn yr un adeilad â chi
- mae gennych reolaeth dros eich cartref, fel nad yw eich landlord neu bobl eraill yn gallu mynd i mewn ac allan o’r eiddo fel y mynnent
Byddwch hefyd yn denant byrddaliad sicr os bu i chi symud i mewn i’r eiddo rhwng 15 Ionawr, 1989 a 27 Chwefror, 1997 ac fe roddodd eich landlord rybudd i chi yn dweud bod gennych denantiaeth fyrddaliad cyn i’ch tenantiaeth ddechrau.
Mathau eraill o denantiaethau
Mae Shelter Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth i esbonio beth yw ystyr bod yn is-denant neu’n lletywr.
Gallech fod â thenantiaeth ‘cyfnod penodol’ neu ‘gyfnodol’ gydag unrhyw un o’r cytundebau tenantiaeth hyn.