Blaendaliadau tenantiaeth a chyfrifoldeb y landlord
Cyn i chi ddechrau rhentu eiddo, bydd y rhan fwyaf o landlordiaid neu asiantaethau gosod tai yn gofyn i chi dalu blaendal. Ar ddiwedd eich tenantiaeth dylech gael y blaendal hwn yn ôl (er gall landlordiaid ddidynnu arian os ydych wedi achosi difrod i’r eiddo neu os oes rhent yn ddyledus).
Pan rydych yn talu blaendal ar gyfer tenantiaeth fyrddaliad sicr (y cytundeb tenantiaeth preifat mwyaf cyffredin), mae’n rhaid i’ch landlord, neu asiantaeth gosod tai, ddiogelu eich blaendal drwy gynllun diogelu a gymeradwyir gan y llywodraeth. Mae hyn yn berthnasol i bob tenantiaeth fyrddaliad sicr a ddechreuodd, neu a gafodd ei hadnewyddu, ar neu ar ôl 6 Ebrill, 2007.
Beth mae cynlluniau blaendal tenantiaeth yn eu darparu?
Mae’r cynlluniau diogelu’n sicrhau bod yr arian yr ydych yn ei dalu fel blaendal tenantiaeth yn cael ei gadw’n ddiogel.
Maent yn sicrhau y byddwch yn cael eich blaendal yn ôl os ydych:
- yn bodloni telerau eich cytundeb tenantiaeth
- yn sicrhau nad ydych yn difrodi’r eiddo
- yn talu eich rhent a’ch biliau
Os ydych mewn dadl â’ch landlord / asiant ar ddiwedd eich tenantiaeth, bydd eich blaendal wedi’i ddiogelu yn y cynllun nes bod y mater wedi’i ddatrys.