Yma yng Nghyngor Wrecsam rydym ni wedi ymrwymo i ddelio’n effeithiol gydag unrhyw bryder neu gŵyn sydd gennych chi am ein gwasanaethau.
Mae yna weithdrefnau gwahanol yn dibynnu ar natur eich cwyn. Efallai bod y materion y tu allan i awdurdodaeth y gweithdrefnau cwynion. Dan yr amgylchiadau hynny bydd ein tîm Cwynion yn ceisio darparu cyngor a gwybodaeth neu’n eich cyfeirio at y gwasanaeth cywir er mwyn iddyn nhw ddelio â’r mater.
Mae manylion y gweithdrefnau cwyno amrywiol ar gael isod.
Gwybodaeth i Achwynwyr
Rydym ni wedi ymrwymo i ddelio’n effeithiol gydag unrhyw bryder neu gŵyn sydd gennych chi. Ein nod yw egluro unrhyw fater yr ydych chi’n ansicr yn ei gylch ac, os yn bosib, byddwn yn unioni unrhyw gamgymeriad sydd wedi’i wneud.
Os ydym ni wedi gwneud rhywbeth o’i le, byddwn yn cynnig ymddiheuriad ac, os yn briodol, byddwn yn cynnig gwneud iawn. Rydym ni hefyd yn ceisio dysgu o gamgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth honno i wella’n gwasanaethau.
Os ydych chi’n cysylltu â ni ynglŷn â gwasanaeth am y tro cyntaf (er enghraifft rhoi gwybod am oleuadau stryd sydd ddim yn gweithio neu wneud cais am apwyntiad ac ati) yna nid yw’r gweithdrefnau cwyno yn berthnasol.
Fe ddylech chi yn gyntaf roi cyfle i ni ymateb i'r cais. Os ydych chi wedi gwneud cais am wasanaeth a’ch bod chi’n anhapus â’r ymateb, gallwch roi gwybod i ni am eich pryderon drwy ddilyn y weithdrefn gwyno briodol.
Terfynau Amser
Fel rheol, dan y weithdrefn gwyno gorfforaethol, dim ond cwynion ynglŷn â materion sydd wedi digwydd o fewn y 6 mis diwethaf y byddwn ni’n eu hystyried. Mae’r terfyn hwn wedi’i ymestyn i 12 mis ar gyfer cwynion statudol. Dan rai eithriadau, efallai y byddwn ni’n edrych ar bryderon sydd wedi’u dwyn i’n sylw yn hwyrach na hynny (fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi roi rhesymau cryf dros beidio â rhoi gwybod i ni yn gynt). Byddwn wedyn yn penderfynu a oes digon o wybodaeth am y mater i’n caniatáu ni i’w ymchwilio.
Cyfrinachedd
Cofiwch, bydd unrhyw gŵyn a wnewch yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol a dim ond yn cael ei rhannu gyda staff neu adrannau sy’n delio â’ch cwyn.
Gallwch gyflwyno cwyn neu godi mater yn ddienw ond, drwy wneud hynny, ni fydd modd i chi dderbyn unrhyw wybodaeth am ganfyddiadau’r ymchwiliadau.
Eich cyfrifoldebau chi
Mewn cyfnod o drafferthion neu drallod, gall rhai pobl ymddwyn yn anghydnaws. Efallai bod amgylchiadau trist neu drallodus wedi arwain at bryder neu gŵyn. Nid ydym ni’n gweld ymddygiad yn un annerbyniol oherwydd bod rhywun wedi bod yn rymus neu’n benderfynol.
Mae gennych chi’r hawl i gael eich clywed, eich deall a’ch parchu ond cofiwch hefyd bod gan ein staff yr un hawliau. Felly rydym ni’n disgwyl i chi fod yn gwrtais a pharchus wrth ddelio gyda’n staff. Ni fyddwn ni’n goddef ymddygiad ymosodol na difrïol, disgwyliadau afresymol na dyfalwch afresymol. Mae’r polisi ‘Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid’ yn nodi sut y byddwn ni’n delio â sefyllfaoedd pan fo gweithredoedd person yn annerbyniol.
Eiriolaeth - gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Mae Llais Gogledd Cymru yn gorff statudol annibynnol sydd ar wahân i'r Bwrdd Iechyd. Sefydlwyd Llais gan Lywodraeth Cymru i roi llais i bobl Cymru wrth gynllunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'u darparu – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae gan Llais dîm sy’n gallu darparu gwasanaeth eiriolaeth a chymorth annibynnol rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n mynegi pryderon am y GIG, gofal cymdeithasol a thriniaeth.