Cadwch lygad am y problemau hyn os ydych chi’n berchen ar adeilad hanesyddol (gallwch hefyd weld gwybodaeth gysylltiedig ar ein tudalen cynnal a chadw adeilad hanesyddol).

Cyn gwneud unrhyw waith atgyweirio, sicrhewch eich bod yn nodi a mynd i’r afael ag achosion gwaelodol y diffyg, fel mai nid dim ond trin y symptom ydych chi.

Rhestr Wirio Archwilio 

Gorchuddion to
Elfen o’r adeiladAmlder archwiliadBeth i gadw llygad amdanoCanlyniadau posiblCamau gweithredu posibl
Ardaloedd to cyffredinolBob 12 misMalurion a thwf planhigionGall cadw gormod o leithder achosi dirywiad gorchuddion to. Gall twf planhigion hefyd achosi i lechi a theils gracio neu symudCliriwch falurion a thorrwch dwf planhigion heb eu rheoli, neu tynnwch nhw
Llechi a theilsBob 12 mis neu ar ôl tywydd stormusCraciau, llithriant neu lechi a theils ar gollGall lleithder treiddiol achosi lleithder ar drawstiau, ac ni sylwir ar hyn yn aml mewn rhannau o’r adeilad na fyddwch chi’n mynd iddynt yn aml, a gall arwain at bydru yn y pen drawDisodli i gyd-fynd â’r deunydd presennol
Teils cribBob 12 mis Teils coll ac uniadau mortar wedi methuGall lleithder treiddiol achosi lleithder ar drawstiau, ac ni sylwir ar hyn yn aml mewn rhannau o’r adeilad na fyddwch chi’n mynd iddynt yn aml, a gall arwain at bydru yn y pen drawAilosod teils coll neu rydd a’u hail-bwyntio fel bo’r angen
Toeau metel a chaeadau plwmBob 12 misHolltau, erydiad a nodweddion fertigol gwastad, caeadau plwm rhydd neu gollGall dŵr treiddiol arwain at bydru yn y pen drawTrwsio holltau. Disodli caeadau plwm neu addasu ffiledi mortar os ydynt yn rhydd
Cyrn simnai a muriau canllawBob 12 misCapanau simdde a phwyntio gwyrol, cracio a brics wedi dirywio, 
potiau neu gopin wedi cracio neu ar goll
 
Gall lleithder treiddiol ddigwydd os yw’r pwyntio neu lansiad yn ddiffygiol, gall cracio a dirywiad parhaus gwaith brics mewn lleoliad mor agored effeithio ar sadrwydd y corn neu fur yn y pen drawAddasu capanau simdde, ail-bwyntio lle bo angen i gyd-fynd â’r deunydd presennol a disodli pyst / copin coll neu sydd wedi difrodi, atgyweirio / ailadeiladu fel bo’r angen (mae’n bosibl y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig)
Cafnau dŵr ac ati
Elfen o’r adeiladAmlder archwiliadBeth i gadw llygad amdanoCanlyniadau posiblCamau gweithredu posibl
Cafnau, pennau hopran a phibellau dŵrBob chwe mis
Yn ystod neu ar ôl tywydd stormus
Elfennau coll neu wedi’u difrodi, craciau a gollyngiadau, rhwystrau dail, silt neu falurionGall cafnau dŵr ac ati wedi’u difrodi, sydd ar goll neu sydd wedi’u rhwystro arwain at leithder ar waliau cyfagos ac effeithio ar uniadau, gan arwain at leithder treiddiol yn raddolDisodli adrannau coll neu wedi’u difrodi i gyd-fynd â’r deunydd presennol, sicrhau bod haearn bwrw yn cael ei baentio’n rheolaidd er mwyn atal rhwd, clirio malurion
Waliau allanol
Elfen o’r adeiladAmlder archwiliadBeth i gadw llygad amdanoCanlyniadau posiblCamau gweithredu posibl
Gwaith maenBob 12 misErydu, craciau a gwaith maen wedi’i ddifrodi, lleithder llystyfiantGall elfennau gwaith maen wedi’u difrodi neu sydd ar goll ganiatáu i ddŵr fynd i mewn i’r eiddo, gall llystyfiant ddifrodi arwyneb y gwaith maen a llochesu lleithder, gall pridd sydd wedi cronni yn erbyn yr adeilad ar lefelau is achosi lleithder treiddiol hefydAtgyweirio neu ddisodli gwaith maen sydd wedi methu, dim ond lle bo’r angen er mwyn cyd-fynd â’r deunydd presennol, rheoli twf llystyfiant a chael gwared ar unrhyw bridd neu ddeunydd arall sydd wedi casglu yn erbyn waliau is
Deunydd glynu a phwyntioBob 12 mis
 
Uniadau agored, llystyfiantMae pwyntio diffygiol yn caniatáu lleithder treiddiol a gall llystyfiant ddadleoli gwaith maen cadarn                                              Dylid ailbwyntio dim ond lle bo angen er mwyn cyd-fynd â’r deunydd gwreiddiol o ran lliw, math a gwead, bydd cymysgedd mortar fel arfer yn cynnwys calch a thywod yn unig           
RendradBob 12 misErydu, craciau a cholli ymlyniadGall rendrad wedi’i ddifrodi ganiatáu i leithder dreiddio, ni fydd rendrad mwy caled yn caniatáu i leithder anweddu a gall dŵr gronniAtgyweirio darnau i gyd-fynd â’r deunydd presennol o ran lliw, math a gwead, ond disodli rendrad caled gyda chalch os yw’n briodol
Gwaith coed a gwaith haearn allanol
Elfen o’r adeiladAmlder archwiliadBeth i gadw llygad amdanoCanlyniadau posiblCamau gweithredu posibl
Ffenestri, drysau, portsys, estyll talcen, rheilenni, gatiauBob chwe misGwydr wedi cracio / torri, pwti ar goll, cortyn ffenestr wedi torri, pydredd, rhwd, paent wedi fflawioGall methu â chadw gwaith coed a gwaith haearn mewn cyflwr da arwain at ddirywiad cyson o ran y gwead trwy bydredd a rhwdDisodli gwydr wedi’i ddifrodi, gosodiadau ar goll a cholynnau ac ati, iro colynnau a chloeon, ailbeintio
Gwasanaethau/cyfleustodau
Elfen o’r adeiladAmlder archwiliadBeth i gadw llygad amdanoCanlyniadau posiblCamau gweithredu posibl
Dŵr a chyflenwad gwres, gosodiadau trydanDylai unigolyn cymwys archwilio gosodiadau trydan a nwy yn rheolaiddGollyngiadau, rhwystrau, difrod cyffredinolGall gollyngiadau o bibellau tanddaearol mewnol ac allanol ddifrodi gwead mewnol yr adeilad a gall arwain at wanhau’r sylfeini. Sicrhewch fod gosodiadau trydan a nwy mewn cyflwr da er mwyn atal posibilrwydd o dân a pheryglon eraill.Cysylltu â chwmni cyfleustodau, trydanwr cymwys neu osodwr nwy sydd ar Gofrestr Diogelwch Nwy