Ar 20 Rhagfyr, 2023 bu i ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam (CDLl). Mae’r CDLl yn ffurfio’r cynllun datblygu ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam a bydd yn rhoi sail ar gyfer penderfyniadau ar gynllunio defnydd tir yn yr ardal hon.
Mae’r ddogfen hefyd yn ffurfio rhan o’r cynllun datblygu statudol ochr yn ochr â Chymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (dolen gyswllt allanol).
Byddwn yn defnyddio’r CDLl a Chynllun Cymru’r Dyfodol fel y brif sail ar gyfer gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a chynigion datblygu.
Ewch i Borthol Ymgynghoriadau’r CDLl i weld gwybodaeth am baratoadau Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam 2013 – 2028.