Cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu yn 2022/23 trwy ddull integredig a chydweithredol gan gynnwys trafodaethau gyda’r bobl sy’n darparu ein gwasanaethau, gweithdai gydag Aelodau o’n Cyngor i ystyried y canlyniadau arfaethedig o’u gwybodaeth nhw o’r bobl sy’n byw o fewn eu wardiau, ac ymgynghoriad cyhoeddus gyda phobl ar draws Wrecsam gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig. Edrychom hefyd ar ystod o dystiolaeth gan gynnwys:
- Data ac ystadegau cyhoeddedig, er enghraifft data Cyfrifiad 2021.
- Yr hyn a wyddom am ein cymunedau o dystiolaeth leol ac ymchwil am iechyd a lles pobl.
- Negeseuon ac adborth am weithgareddau cyfranogi a gynhaliwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau dros y flwyddyn ddiwethaf.
- Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau presennol ein cyngor a meysydd gwaith eraill.
Ar y cyd â’r dystiolaeth a nodwyd uchod, mae blaenoriaethau ein cyngor wedi’u hysbysu gan Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam. Cafodd Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam ei gynhyrchu yn dilyn ymchwil ac ymgysylltiad eang gyda phobl ar draws Wrecsam. Roedd y gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn hynod o ddefnyddiol ac yn codi meysydd allweddol i’w hystyried ar gyfer blaenoriaethau ein cyngor, a ddatblygwyd ar y cyd ag amcanion a Chynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar draws Sir y Fflint a Wrecsam.
Datblygu ein Canlyniadau Cydraddoldeb
Er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at Fwrdeistref Sirol decach, cyflawnom ymchwil gan gynnwys adolygiad o’n canlyniadau cydraddoldeb blaenorol a data a thystiolaeth a ystyriwyd o adroddiadau cenedlaethol, gwybodaeth Gogledd Cymru a gwybodaeth leol. Mae’r dadansoddiad a gyflawnwyd yn awgrymu nifer o feysydd y gall ein gwaith ganolbwyntio arnynt. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chydlyniant Cymunedol o dan yr adran Canlyniadau Cydraddoldeb.
Ymgynghoriad
Er mwyn cael adborth ar flaenoriaethau a chanlyniadau arfaethedig y Cyngor, cyflawnom ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod Chwefror a Mawrth 2023. Roedd hyn yn cynnwys ymgysylltiad â grwpiau cynrychioliadol gyda nodweddion gwarchodedig (fel y’u diffinnir yn y y Ddeddf Cydraddoldeb). Gofynnom ai’r blaenoriaethau a’r canlyniadau yr oeddem wedi’u nodi yn ein Cynllun y Cyngor drafft oedd y meysydd iawn i ganolbwyntio arnynt ac a oedd unrhyw bethau eraill y dylem eu cynnwys.
Roedd y dulliau ymgynghori yn cynnwys:
- Arolwg ar-lein ar lwyfan ‘Eich Llais’.
- Arolwg wedi’i argraffu ar gael i’r rhai nad oedd yn gallu ymgysylltu’n ddigidol.
- Ymgysylltiad gyda grwpiau cymunedol fel rhan o’u cyfarfodydd rheolaidd (e.e. Canolfannau Clyd a grwpiau cefnogi pobl eraill ag anghenion gwahanol).
- Grŵp ffocws a gynhaliwyd gyda Senedd yr Ifanc Wrecsam.
- Ymgysylltiad mewn digwyddiadau cymunedol, gyda chynghorau cymuned, staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a chynrychiolwyr undebau llafur.
Mae mwy o fanylion ar gael yn ein hadroddiad ymgynghori llawn ar ein gwefan o dan yr adran Canlyniadau Cydraddoldeb.