Gweledigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw: cefnogi’r bobl sy’n byw yma i gyrraedd eu llawn botensial, i lwyddo a chyrraedd safon uchel o les. Byddwn yn arweinydd cymunedol cryf a chynhwysol i helpu i wneud i hyn ddigwydd, gyda ffocws cryf ar ymddygiadau a gwerthoedd cadarn.
Dyma ein gwerthoedd:
- Grymuso
- Ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Dyhead
- Cydweithio
- Gwneud gwahaniaeth
- Tegwch
Mae Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (‘Egwyddorion Nolan’) (dolen gyswllt allanol) yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio fel deiliad swydd gyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu hethol neu eu penodi i swydd gyhoeddus. Mae'r rhain yn sail i'n hymagwedd at ein Gwerthoedd.
Mewn 10-15 mlynedd, bydd economi'r fwrdeistref sirol…
- Yn ffynnu ac yn gadarn, yn ennyn hyder ac yn annog buddsoddiad gan ddatblygwyr, busnesau a sefydliadau;
- Yn economi mwy amlbwrpas, mwy pleserus, o ansawdd uchel yn ystod y dydd a’r nos sy’n apelio at bobl sy’n byw, dysgu a gweithio yn Wrecsam;
- Yn gymysgedd da o ddiwydiant traddodiadol gydag economi sgiliau a gwybodaeth;
- Wedi’i gysylltu’n rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol – o ran teithio a chyfathrebu;
- Yn cynnig ystod o gyfleoedd cyflogaeth, gyda chyflogau uwch a mwy o foddhad mewn swydd; ac
- Yn gwerthfawrogi pobl hŷn drwy barhau i ddefnyddio eu sgiliau a’u harbenigedd mewn lleoliadau gwaith neu drwy gyfleoedd gwirfoddoli.
Mewn 10-15 mlynedd, bydd pobl y fwrdeistref sirol yn…
- Byw yma am eu bod yn dewis gwneud hynny - ac yn falch o'u hunaniaeth a'u diwylliant;
- Meddu ar ddyheadau uchel ar gyfer addysg a bywyd, gyda’r sgiliau, y cyfleoedd a'r dulliau i'w cyflawni;
- Cefnogi plant a phobl ifanc i gael y lle a’r cyfle i chwarae;
- Meddu ar gyfleoedd cyfartal waeth beth fo’u hamgylchiadau personol;
- Meddu ar y dulliau o wneud dewisiadau bywyd da i’w cadw’n iach ac yn hapus gan ddibynnu llai ar wasanaethau cyhoeddus;
- Cynnwys unigolion gwydn sy’n byw mewn cymunedau cryf a gwydn lle nad oes unrhyw un yn, neu’n teimlo’n unig neu ar wahân, lle bo pobl yn derbyn cyfrifoldeb am eu hunain a’u hardaloedd; ac yn
- Cael cyfleoedd i ymgysylltu mewn gweithgareddau diwylliannol a hamdden ar gyfer pob oed.
Mewn 10-15 mlynedd, bydd y fwrdeistref sirol yn le gyda…
- Chefn gwlad a threftadaeth unigryw a hardd sy’n cael ei hystyried fel y porth i Ogledd Cymru a lle mae pobl eisiau bod ac yn falch o ddweud eu bod yn dod o’r ardal;
- Arwyddocâd rhanbarthol a chenedlaethol gyda chanol dinas sy’n llawn hwyl, yn gymdeithasol ac yn ddifyr ac yn cynnwys pawb sy’n byw, gweithio, ymweld a buddsoddi ynddi;
- Canol dinas lân sy’n cael ei rheoli’n dda, sy’n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cyffrous yn rheolaidd i sefydlu Wrecsam fel prif gyrchfan yn y rhanbarth;
- Cysylltiadau cludiant cyhoeddus ac isadeiledd da er mwyn i bobl gael mynediad hawdd at y gwasanaethau a'r cyfleusterau y maent eu hangen a'u heisiau, a'r gallu i deithio i ddinasoedd mawr eraill;
- Tai o ansawdd da i bawb, boed yn dai cymdeithasol neu dai rhentu preifat; a
- Lefelau isel o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel waeth beth yw eu cefndir neu eu dewisiadau mewn bywyd.