Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am adnoddau sydd ar gael ar y wefan hon gan gynnwys dulliau symud o gwmpas y safle a chyswllt gyda safleoedd gyda chyngor hygyrchedd a gwybodaeth am bori'r safle gydag offer darllen sgrin, yn ogystal â manylion am fysellau mynediad a gwybodaeth am y porwr ac opsiynau hygyrchedd.
Mae'r dudalen hon ar gael o bob tudalen o wefan Cyngor Wrecsam.
Mae Cyngor Wrecsam yn ymroddedig i wneud eu gwefan mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr, gan gynnwys defnyddwyr dall neu brin eu golwg. Rydym hefyd yn sicrhau bod y defnyddwyr hynny sydd ag anawsterau darllen yn gallu defnyddio'r safle.
Mae AbilityNet (dolen gyswllt allanol) yn darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i addasu eich ffôn, cyfrifiadur neu lechen i fodloni eich anghenion.
Gallwch chwilio am angen penodol (er enghraifft gwneud maint y ffont yn fwy) neu hidlo’r canllawiau yn seiliedig ar eich symptomau (fel cryndod) neu eich cyflwr (fel dyslecsia).