Beth mae Panel Lleoliadau Gofal Plant yr Enfys yn ei wneud?
Mae Panel Lleoliadau Gofal Plant yr Enfys yn ystyried ceisiadau am gyllid byrdymor i gyfrannu tuag at gostau Gweithiwr Cefnogi Ychwanegol ar gyfer lleoliadau gofal plant a lleoliadau seibiant er mwyn:
- gwella lles a gwytnwch teuluoedd plant sydd ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol
- cefnogi rhieni plant sydd ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol i weithio
Mae’r panel yn cwrdd bob mis ac mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau am gyllid erbyn diwrnod gwaith cyntaf y mis y cynhelir cyfarfod y panel. Mae’r cyllid am gyfnod dros dro bob amser a chaiff ei ddyrannu os yw’r gyllideb yn caniatáu.
Mae’r panel hefyd yn ystyried ceisiadau am gefnogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol i blant sy’n derbyn Cynnig Gofal Plant Cymru ac sydd ag anabledd a/neu angen ychwanegol.
Meini prawf a chanllawiau lleoliadau gofal plant
Diffiniad ‘Anabledd neu Angen Ychwanegol’ yw: anabledd, angen iechyd cymhleth neu angen ychwanegol sy’n debygol o bara mwy na 12 mis ac sy’n cael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd (gellir ei ystyried heb ddiagnosis).
Y disgwyl yw y bydd plant gydag anghenion ychwanegol eisoes yn cael eu cefnogi gan nifer o sefydliadau gwahanol a ddylai gael eu rhestru ar y ffurflen gais. Bydd cais yn cael ei wneud am ddatganiadau cefnogol gan y sefydliadau hyn cyn i’r panel gyfarfod.
Ni fydd ceisiadau ond yn cael eu derbyn gan unigolion proffesiynol sy’n gweithio gyda’r teulu (e.e. darparwr gofal plant, gweithiwr gofal iechyd).
Apeliadau
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y panel os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.
Gallwch ofyn am ffurflenni apelio drwy anfon neges at paneladmin@wrexham.gov.uk. Pan fydd y ffurflen wedi ei chwblhau, dychwelwch hi mewn e-bost at paneladmin@wrexham.gov.uk.
Rhaid i unrhyw apêl ddangos yn glir y rheswm dros wrthod penderfyniad y panel. Bydd rhaid cynnwys gwybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth nad yw wedi ei chynnwys yn y ffurflen gais wreiddiol i gefnogi eich cais er mwyn i’r apêl gael ei hystyried.
Rhaid i apeliadau gael eu derbyn erbyn y dydd Iau cyn cyfarfod y panel. Bydd unrhyw rai a gaiff eu derbyn ar ôl hynny yn cael eu hystyried yng nghyfarfod dilynol y panel.
Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad yr apêl, gallwch gyflwyno cwyn drwy weithdrefn gwyno gyffredinol y cyngor.