Gallwch chi weld y rhaglen hyfforddi yn y cyfeiriadur hwn a drefnwyd rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025.

Gweithdrefnau cyrsiau hyfforddi

Sylwch:

  • Mae costau a dyddiadau cyrsiau ar gael yn y cyfeiriadur hyfforddiant .
  • Rydym yn rhoi cymhorthdal sylweddol ar gyfer hyfforddiant sy’n y cyfeiriadur. Rydym ni wedi gallu gwneud hyn ar gyfer y cyrsiau canlynol o ganlyniad i’r cyllid gan Lywodraeth Cymru tan ddiwedd Hydref 2024. Ni allwn warantu y byddwn ni’n gallu cynnig cyrsiau ar ôl hyn ar y gyfradd ostyngol hon.
  • Cyn archebu lle ar y cwrs, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen cynnwys y cwrs ac yn siŵr y bydd y cwrs yn bodloni eich anghenion hyfforddi a’ch bod yn gallu bodloni’r gofynion mynediad.
  • Os yw’r ffurflen archebu yn cael ei chwblhau gan gyflogwr yn hytrach na’r ymgeisydd a enwyd, yna cyfrifoldeb y cyflogwr yw sicrhau bod yr ymgeisydd yn addas ar gyfer y cwrs a bod gwybodaeth y cwrs yn cael ei rhannu gyda’r ymgeisydd.
  • 2 aelod o staff yn unig sy’n cael archebu lle ar bob cwrs. Os hoffech chi archebu lle ar gwrs i fwy o aelodau o staff, gofynnwch i’r staff gael eu rhoi ar ein rhestr aros. Os oes lleoedd ar gael, byddwn ni’n cysylltu â chi i gynnig lle i chi. 
  • Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein. Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb.
  • Wrth archebu lle ar y cyrsiau canlynol, os na wneir taliad o fewn 5 diwrnod gwaith, byddwch chi’n colli’r lle ar y cwrs. 
  • Mae'r cyrsiau yn boblogaidd iawn felly cofiwch archebu mewn da bryd. Bydd archebu lle yn digwydd ar sail y cyntaf i’r felin ac yn amodol ar dderbyn taliad.
  • Byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â newidiadau i'r cyfeiriadur, cyrsiau newydd ac unrhyw newidiadau i'r cyrsiau a gynlluniwyd drwy E-fwletinau a’n tudalen Facebook. Os nad ydych eisoes yn derbyn yr e-fwletinau hyn, bydd yn rhaid i chi gofrestru.

Cadarnhau lle

  • Bydd pob archeb cwrs yn cael ei gadarnhau drwy e-bost fel ein hoff ddull o gysylltu. 
  • Gwnewch yn siŵr fod cadarnhad o’r archeb yn cael ei anfon ymlaen at yr ymgeisydd.
  • Os na fyddwch yn derbyn cadarnhad o’ch archeb peidiwch â throi fyny ar y cwrs.  
  • Bydd nodyn atgoffa yn cael ei anfon at gyfranogwyr wythnos cyn y cynhelir y cwrs.   

Canslo cwrs

O bryd i'w gilydd bydd angen i ni ganslo cyrsiau oherwydd niferoedd isel. Ein nod yw gwneud y penderfyniadau hyn o leiaf wythnos cyn i'r cwrs gael ei redeg. Rydym yn gwerthfawrogi y gall hyn fod yn rhwystredig, ond byddwn yn trosglwyddo’ch archeb i'r cwrs nesaf sydd ar gael ble bo’n bosibl.  

Os bydd angen i ni ganslo cwrs ar fyr rybudd, e.e. tywydd gwael, salwch tiwtor, byddwn yn rhoi gwybod i gyfranogwyr cyn gynted ag y bo modd. Sicrhewch eich bod wedi rhoi manylion cyswllt priodol ar eich ffurflen archebu.

Canslo gan gyfranogwr / Dim presenoldeb

Os na fyddwch yn gallu mynychu’r cwrs wedi’r cyfan, byddwch angen hysbysu’r Tîm Gofal Plant Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam am y newid yn eich amgylchiadau. Anfonwch neges e-bost i childcaretraining@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292094  i wrthod eich presenoldeb. Mae hyn yn ein galluogi i gynnig lle i bobl ar y rhestr aros. 

  • Rhoddir ad-daliad llawn pan fyddwn wedi derbyn rhybudd o 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad y cwrs - ni fydd ad-daliad yn cael ei dalu ar ôl yr amser hwn.
  • Fel arall, gellir enwi mynychwr arall i gymryd lle’r sawl sy’n methu â mynychu ar unrhyw adeg cyn y cwrs drwy gysylltu â’r tîm ar y manylion uchod. Ni fydd ffi ychwanegol am wneud hyn.
  • Bydd methu â bod yn bresennol heb rybudd ymlaen llaw yn golygu y bydd yn ofynnol i’r lleoliad dalu cost lawn y cwrs. Bydd y swm hwn yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs.

Tystysgrifau

Darperir tystysgrifau ar gyfer pob cwrs. Bydd rhai yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd yr hyfforddiant ac eraill yn dilyn yn y post yn unol â’r gweithdrefnau achredu ar gyfer cyrsiau unigol. Bydd y rhain yn cael eu postio i'r cyfeiriad ar eich ffurflen archebu cwrs. 

Rydym yn gwneud copïau o dystysgrifau cyrsiau achrededig a ddosbarthwn ond nodwch na fyddwn yn talu am unrhyw dystysgrifau newydd. Cyfrifoldeb y cyfranogwr fydd tystysgrifau newydd. 

Archebu cwrs hyfforddi  

Mae’r cyrsiau canlynol yn gymysgedd o hyfforddiant personol ac ar-lein drwy Zoom. Gweler cyrsiau unigol am wybodaeth bellach.     

Yn ddarostyngedig i’r galw a’r nifer sy’n cymryd rhan, efallai y byddwn yn ychwanegu at y cyrsiau hyn o dro i dro. Bydd diweddariadau yn cael eu hanfon yn yr e-fwletinau misol ac ar ein tudalen Facebook.