Mae Cyngor Wrecsam yn rheoli nifer o ganolfannau cymunedol ac ystafelloedd cyfarfod sy’n addas ar gyfer amryw ddigwyddiadau, fel:
- Gweithdai / sesiynau hyfforddiant
- Seminarau
- Cyfarfodydd
- Cyfweliadau
- Cyflwyniadau
Hyrwyddo’ch digwyddiad
Gall ein Tîm Busnes a Buddsoddi’ch helpu i farchnata eich cynhadledd, gweithdy, seminar neu gyflwyniad yn syth i’ch cynulleidfa darged.
Gallwn gynnig cymorth i greu diddordeb yn y digwyddiad ar ffurf:
Cymorth i hyrwyddo
Anfonwch fanylion eich digwyddiad i’w cynnwys yn ein calendr o ddigwyddiadau busnes. Wrth gynnig digwyddiad gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis ‘busnes’ o’r gwymplen pan fyddwch chi’n llenwi’r rhan ‘lleoliad’.
Yna anfonir manylion y digwyddiad at drigolion lleol a phobl broffesiynol ym myd busnes sydd wedi cofrestru i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau busnes drwy e-bost.
Hysbysebu’n lleol
Mae ein tudalen ynglŷn â chyfleoedd i hysbysebu’n lleol yn sôn am wahanol ffyrdd ichi hyrwyddo’ch digwyddiad yn ardal Wrecsam. Mae’r rheiny’n cynnwys hysbysebu mewn papurau newydd lleol neu gylchgronau bro, neu ddosbarthu taflenni.
Grwpiau rhwydweithio
Gallech hefyd ddod i gyfarfodydd rhwydweithio busnes a digwyddiadau eraill a gynhelir yn yr ardal er mwyn codi ymwybyddiaeth o’ch digwyddiad chi.
Fe gewch chi restri o ddigwyddiadau busnes lleol ar y gwefannau lleol: