Cynhelir nifer o gyfarfodydd rhwydweithio i fusnesau’n gyson ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae pob cyfarfod yn gyfle i gwrdd â phobl broffesiynol eraill ym myd busnes a gallu:
- Codi eu hymwybyddiaeth o’ch gwasanaethau / cynnyrch
- Elwa ar wasanaeth y gallant ei gynnig i helpu’ch busnes
- Cydweithio â nhw ar eich busnes
Cadwch eich lle o flaen llaw cyn dod i unrhyw gyfarfod. Fel hynny gall y trefnwyr wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol a chadarnhau y byddwch yn gallu dod (gan nad yw rhai grwpiau yn caniatáu i fwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn fod yn bresennol). Weithiau mae’n rhaid gohirio cyfarfod neu’i gynnal mewn man gwahanol ar fyr rybudd, ac wrth gadw’ch lle o flaen llaw dylech gael gwybod am unrhyw newidiadau.
Cyfarfodydd rhwydweithio rheolaidd i fusnesau yn Wrecsam
Grwpiau rhwydweithio eraill
Os ydych chi’n rhedeg grŵp rhwydweithio i fusnesau sy’n cwrdd yn gyson yn ardal Wrecsam, neu’n gwybod am un, rhowch wybod inni drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau. Wedyn gallwn roi manylion y grŵp ar y dudalen hon (yn rhad ac am ddim).
Dod o hyd i ddigwyddiadau busnes
Mae digwyddiadau busnes hefyd yn cynnig cyfle i gwrdd â gweithwyr proffesiynol eraill ym myd busnes.
Ceir rhestrau o ddigwyddiadau busnes lleol ar y gwefannau canlynol:
Gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi’) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau busnes a sesiynau rhwydweithio lleol.