Gall ein Tîm Busnes a Buddsoddi roi manylion am gynlluniau cyllid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y gallech fod yn gymwys amdanynt.
Cais am chwiliad argaeledd cyllido
Mae grantiau’n cynnig cyllid nad oes angen ei dalu’n ôl a allent eich helpu chi i:
- Ddechrau busnes
- Tyfu ac ehangu eich busnes
- Marchnata a hyrwyddo eich busnes
- Adnewyddu / datblygu eiddo
- Recriwtio staff
- Hyfforddi eich gweithlu
Yn ogystal â chyfleoedd am gyllid grant gall ein tîm Busnes a Buddsoddi roi gwybodaeth am:
- ddarparwyr cyfalaf menter
- benthyciadau
- llwyfannau cymheiriaid
- cystadlaethau gyda gwobr ariannol
Gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gyfleoedd am gyllid.
Dolenni defnyddiol
Mae nifer o gynlluniau ar gael i helpu i adnewyddu, atgyweirio a gwella eiddo masnachol a / neu ddomestig yn Wrecsam.
Dechrau neu dyfu eich busnes eich hun gyda chymorth Benthyciad Sefydlu gan y Llywodraeth.
Gall busnesau gael benthyciadau a buddsoddiad o £1,000 i £5 miliwn i’w helpu nhw i gychwyn, cryfhau a thyfu.
Os ydych yn meddwl am greu cynnyrch newydd a deinamig, neu wella eich gwasanaethau presennol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am gefnogaeth.
Mae AVOW yn cynnig gwasanaeth cyngor ariannol wedi’i deilwra i fodloni anghenion grwpiau, elusennau a mentrau cymdeithasol gwirfoddol a chymunedol nid er elw sydd wedi’u lleoli yn neu’n gwasanaethu pobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Asiantaeth Datblygiad Gweledig sy’n darparu arweiniad a chefnogaeth i’r economi wledig ac yn gweithredu prosiectau amrywiol i gefnogi twf a datblygiad.