Mae Wrecsam yn un o blith nifer fechan o leoedd sydd ag economi gymdeithasol wedi’i chydnabod gan Social Enterprise UK.
Beth yw sefydliad nid er elw?
Mae sefydliadau dielw’n canolbwyntio ar gymunedau ac yn defnyddio’u helw i ariannu eu gwaith. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- sefydliadau gwirfoddol
- grwpiau cymunedol
- elusennau
- cyd-fentrau
Beth yw menter gymdeithasol?
Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy’n masnachu ar gyfer dibenion cymdeithasol neu amgylcheddol. Maent yn anelu at lwyddo’n fasnachol, ond yn defnyddio’r mwyafrif o unrhyw elw i helpu pobl a/neu’r blaned.
Mae mentrau cymdeithasol ym mhob sector o economi’r DU.
Rhwydwaith Menter Gymdeithasol
Mae ein Tîm Busnes a Buddsoddi’n cynnal Rhwydwaith Menter Gymdeithasol sy’n darparu cymorth ac arweiniad dynodedig. Mae’r rhwydwaith hefyd yn helpu sefydliadau tebyg i rannu gwybodaeth ac arferion da, rhwydweithio, nodi cyllid, a chydweithio er mwyn ennill contractau.
Pwy rydym yn eu cynghori
Gall ein Swyddog Cymorth Menter Gymdeithasol gynnig arweiniad i chi p’un a ydych:
- Yn awyddus i sefydlu menter gymdeithasol neu sefydliad nid er elw
- Eisoes yn rhedeg menter gymdeithasol neu sefydliad nid er elw
- Yn awyddus i ail-werthuso model busnes eich cwmni presennol er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.
Gallwch lenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, os hoffech chi drefnu apwyntiad, neu os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr wahoddiadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.
Dolenni perthnasol
Mae ein tîm Busnes a Buddsoddi’n darparu mynediad at adnoddau amrywiol i fusnesau newydd a busnesau presennol, a allai fod yn ddefnyddiol i sefydliadau nid er elw.
Mae nifer o sefydliadau, megis y rhai a restrir isod, yn gallu darparu cyngor a chymorth i fentrau cymdeithasol yng Nghymru: