Os ydych chi’n ystyried sefydlu eich busnes eich hun yn Wrecsam, gallwch gael mynediad at gymorth busnes diduedd a chyfrinachol, am ddim, gan ein Tîm Busnes a Buddsoddi.
Rydym ni’n deall bod dechrau eich busnes eich hun yn gallu bod yn broses gyffrous ond brawychus. Gall ein tîm profiadol o swyddogion cefnogi busnes gynnig arweiniad a’ch cyfeirio at gymorth pellach os oes angen.
Mae ein canllaw buddsoddi hefyd yn amlygu pam y gallai Wrecsam fod yn lle delfrydol i’ch busnes.
Cyflwyno ymholiad
Gofynnwch am wybodaeth i’ch helpu â sefydlu eich busnes, neu gallwch drefnu apwyntiad.
Sut allwn ni eich helpu chi i ddechrau busnes
Fel trosolwg byr, gall ein cymorth a’n adnoddau eich helpu chi i:
- Sefydlu eich busnes yn gynt
- Llunio cynlluniau busnes a marchnata y gallwch eu defnyddio i gael cyllid
- Ymchwilio i’ch marchnad yn drylwyr, gan nodi tueddiadau allweddol yn y farchnad, rhagolygon y dyfodol a phroffiliau defnyddwyr
- Adnabod ac ymchwilio i’ch cystadleuaeth yn lleol
- Dod o hyd i gyflenwyr
- Marchnata eich busnes
- Dod o hyd i gyfleoedd rhwydweithio lleol, digwyddiadau a gweithdai – gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi’) i gael y wybodaeth ddiweddaraf
- Cyflogi staff
- Ymchwilio i statws credyd cyflenwyr a chwmnïau rydych chi am weithio gyda nhw
- Nodi unrhyw grantiau / cyllid perthnasol
- Nodi unrhyw reoliadau neu drwyddedau perthnasol
- Gwarchod eich eiddo deallusol
- Gwneud penderfyniadau busnes hyddysg
Gadewch i ni gael gwared â’r ansicrwydd ynghlwm â phenderfyniadau mae angen i chi eu gwneud drwy roi gwybodaeth gywir a pherthnasol i chi.
Gwasanaethau ac adnoddau arbenigol ar gyfer busnesau newydd
Canllawiau ar ddechrau a rhedeg busnes
Gallwn ddarparu canllawiau sefydlu ar gyfer mathau penodol o fusnesau, yn amlinellu:
- unrhyw gymwysterau gorfodol sydd eu hangen ar eich busnes
- unrhyw drwyddedau y byddai eu hangen
- rheoliadau i fod yn ymwybodol ohonynt
- ffyrdd posibl o hyrwyddo
I wneud cais am wybodaeth i’ch helpu i ddechrau eich busnes, gallwch lenwi ein ffurflen ymholiad.
Pecyn Sefydlu
Gallwch hefyd wneud cais am becyn sefydlu busnes, sy’n cynnwys:
Canllawiau
- Cyflwyniad i reoliadau busnes wrth ddechrau busnes
- Dewis y strwythur cyfreithiol cywir
- Cysylltiadau gorfodol ar gyfer busnesau newydd
- Cyflwyniad i Dreth, Yswiriant Gwladol a TAW
- Llunio cynllun busnes
- Dewis enwau ar fusnesau a chwmnïau
- Yswiriant ar gyfer busnes
- Proffilio eich cynulleidfa darged
Rhestr Wirio
- Ymchwil i’r farchnad ar gyfer busnes newydd
- Rhedeg busnes o adref
Taflenni ffeithiau
Mae amrywiaeth eang o daflenni ffeithiau busnes (dolen gyswllt allanol) ar gael hefyd. Llenwch ein ffurflen ymholiadau gan nodi cyfeirnod a theitl pob taflen ffeithiau sydd o ddiddordeb, hyd at uchafswm o 10.
Ymchwil y farchnad – gan gynnwys adroddiadau IBIS World
Pan fyddwch yn dechrau busnes o’r newydd mae’n bwysig deall a fydd digon o alw am eich gwasanaethau / cynnyrch - cyn buddsoddi unrhyw arian i lansio eich menter.
Gallwn gynnig mynediad at amrywiaeth o adroddiadau ymchwil y farchnad arweiniol, sy’n cynnwys llawer o sectorau a diddordebau.
Gallwn ddarparu ymchwil a fydd yn ddefnyddiol wrth lunio cynllun busnes neu gefnogi cais am gyllid, megis:
- tueddiadau presennol a rhai a ragwelir ar gyfer y dyfodol o fewn sectorau marchnad penodol
- data demograffig lleol
- ystadegau am gwsmeriaid
- tueddiadau twristiaeth
IBIS World yw’r darparwr mwyaf nodedig o ymchwil i'r farchnad sydd ar gael am ddim trwom ni – mae’n un o ffynonellau mwyaf toreithiog y DU o wybodaeth am fusnes a diwydiant. Mae eu hadroddiadau, sydd fel arfer yn costio tua £500 i’w prynu, ar gael am ddim trwy ein gwasanaeth. Maent yn darparu ymchwil annibynnol, cywir, cynhwysfawr a chyfredol ar gannoedd o sectorau marchnad y DU.
Trosolwg o feysydd sy’n cael eu dadansoddi mewn adroddiadau:
Perfformiad y diwydiant
- Ysgogyddion allanol allweddol
- Perfformiad presennol
- Rhagolygon y diwydiant
- Cylched bywyd y diwydiant
Cynnyrch a marchnadoedd
- Cadwyn gyflenwi
- Cynnyrch a gwasanaethau
- Penderfynyddion galw
Cystadleuaeth
- Ffactorau llwyddiant allweddol
- Meincnodau strwythur costau
- Sylfaen cystadleuaeth
- Rhwystrau rhag mynediad
Ystadegau allweddol
- Data am y diwydiant
- Newid blynyddol
- Cymarebau allweddol
Gallwch lenwi ein ffurflen ymholiadau os hoffech i ni argymell adroddiadau neu ddata sy’n gysylltiedig â’ch syniad busnes.
Marchnata eich busnes yn effeithiol
Yn aml iawn, denu cleientiaid a gwerthiant yw un o’r heriau mwyaf wrth sefydlu busnes newydd.
Rydym yn cynnig cymorth marchnata i’ch helpu i:
- Ddod o hyd i gyfleoedd hysbysebu lleol
- Codi ymwybyddiaeth am unrhyw ddigwyddiadau busnes rydych yn eu cynnal yn Wrecsam (edrychwch ar ein tudalen cynnal cyfarfod / digwyddiad am ragor o wybodaeth)
- Dod o hyd i gyfarfodydd rhwydweithio, lle gallwch godi ymwybyddiaeth am eich busnes a ffurfio perthnasoedd â chwmnïau lleol
Gallwn hefyd roi gwybod i chi am gyfleoedd masnachu mewn digwyddiadau / marchnadoedd, yn ogystal â gweminarau a gwasanaethau cymorth eraill, a allai eich helpu i godi proffil eich busnes ar-lein.
Llenwch ein ffurflen ymholiadau i wneud cais am gymorth marchnata ac awgrymiadau ar gyfer eich busnes.
Templedi ar gyfer dogfennau / polisïau enghreifftiol
Rydym ni’n gallu darparu mynediad am ddim i fwy na 1,000 o ddogfennau busnes cyfredol y gallwch chi eu haddasu o gronfa ddata fusnes ‘Tips and Advice’ Indicator – FL Memo (dolen gyswllt allanol)
Mae’r pynciau’n cynnwys cyfraith cyflogaeth, diogelwch tân, AD, iechyd a diogelwch, rhestrau gwirio ar gyfer busnes, rheoli cyllid a chyfrifeg.
Mae’r holl ddogfennau wedi’u hysgrifennu’n gryno ac mewn iaith syml ac maent yn barod i’w defnyddio ar unwaith.
Mae rhai o’r modelau polisïau / dogfennau mwyaf poblogaidd yn cynnwys:
Amodau a thelerau gwerthiant
- Amodau a thelerau gwerthu i ddefnyddiwr
- Amodau a thelerau gwerthu o fusnes i fusnes
- Amodau a thelerau ar gyfer darparu gwasanaethau i gwsmeriaid busnes
- Amodau a thelerau ar-lein – gwerthu gwasanaethau i ddefnyddiwr
- Amodau a thelerau ar-lein – busnes i ddefnyddiwr – contract gwerthu nwyddau
- Cytundeb gwerthu nwyddau
Cyffredinol
- Hawlfraint (ar ddyluniadau wedi’u creu ar gyfer eich busnes / cwmni)
- Cytundeb cyfrinachedd (wrth ganiatáu i drydydd parti gael mynediad at wybodaeth neu ddata eich busnes)
- Llythyr cyfrinachedd (dewis llai ffurfiol na chytundeb cyfrinachedd, fel arfer yn cael ei ffurfio yn ystod camau cynnar unrhyw drafodaethau)
- Hysbysiad preifatrwydd GDPR
- Cytundeb is-gontractio
- Templed anfoneb
- Llythyr atgoffa am anfoneb
- Templed asesiad risg
- Archwiliad asesiad risg
- Ffurflen gais cyfrif credyd (ar gyfer cwsmeriaid sy’n gofyn am gyfleuster credyd)
- Llythyr yn cadarnhau archeb ar lafar
- Llythyr dim contract (mewn ymateb i honiad am gontract ar lafar)
- Gwarant bersonol i dalu (ar gyfer cwsmeriaid posib' gydag enw drwg)
- Partneriaethau
- Cytundeb partneriaeth
- Cytundeb partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
Llenwch ein ffurflen ymholiadau os hoffech wneud cais am unrhyw un o’r templedi o’r rhestr uchod neu wneud cais am restr o’r holl dempledi a pholisïau enghreifftiol sydd ar gael y gellir eu darparu (hyd at 10 y mis).
Adroddiadau a sgôr credyd Experian am ddim
Gwarchodwch eich menter rhag gweithio gyda busnesau sydd â sgôr credyd wael.
Bydd adroddiadau credyd gan Experian yn cynnig tawelwch meddwl i chi, p’un a hoffech chi:
- ymchwilio a oes gan fusnes y modd i dalu am unrhyw nwyddau/gwasanaethau y gofynnwyd i chi eu darparu
- diogelu eich hun rhag dechrau busnes gydag unrhyw gyflenwyr mewn sefyllfa ariannol wael
- ymchwilio i ddarpar bartneriaid busnes cyn llofnodi contract
Dyma’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiadau:
- Crynodeb cyffredinol o’r cwmni
- Dadansoddiadau ariannol a gwybodaeth am risg
- Manylion y perchnogion a’r cyfarwyddwyr
- Newidiadau i derfyn credyd a sgôr credyd misol
- Gwybodaeth am berfformiad talu llawer o gwmnïau
Mae adroddiadau ar gael am unrhyw gwmni cyfyngedig yn y DU, ac mae adroddiadau mwy cryno hefyd ar gael am lawer o unig fasnachwyr.
Llenwch ein ffurflen ymholiad i ofyn am adroddiad credyd, gan ddarparu enw’r cwmni neu fusnes ac, os gallwch chi, eu swyddfa gofrestredig / cyfeiriad masnachu a’u gwefan.
Cyfleoedd i rwydweithio
Gallwch ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi’) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau busnes, fforymau a chyfarfodydd rhwydweithio sydd ar ddod.
Chwilio am grantiau a chyllid
Mae grantiau’n cynnig cyllid nad oes angen ei dalu’n ôl a gallent eich helpu i:
- Ddechrau busnes
- Ehangu eich busnes
- Marchnata a hyrwyddo eich busnes
- Adnewyddu / datblygu safle
- Recriwtio staff
- Hyfforddi eich gweithlu
Gallwn roi gwybod i chi am gynlluniau grant lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y gallech fod yn gymwys i’w derbyn. Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth am ddarparwyr cyfalaf menter, benthyciadau, platfformau cymheiriaid a chystadlaethau gyda gwobrau ariannol.
Gallwch wneud cais am chwiliad argaeledd cyllido trwy lenwi ein ffurflen ymholiadau, i nodi ffynonellau cyllid posibl. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn seiliedig ar gynlluniau cyllid a restrwyd sy’n agored ar gyfer cais ar gronfeydd data cyllid trydydd parti.
Gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gyfleoedd am gyllid.
Llyfrgell fusnes
Mae amrywiaeth o lyfrau ar gael gan Lyfrgelloedd Wrecsam am nifer o bynciau busnes (ar gyfer busnesau newydd a rhai sydd wedi’u sefydlu).
Gallwch bori drwy gatalog Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam ar-lein (dolen gyswllt allanol) i chwilio am lyfrau sydd o ddiddordeb neu o gymorth.
Gallwch ddysgu sut i ymaelodi â’r llyfrgell a defnyddio’r gwasanaeth ar y tudalennau llyfrgell.