Y wybodaeth ddiweddaraf a’r camau nesaf – Hydref 2024

Yn dilyn cyflwyno terfyn cyflymder statudol o 20mya fis Medi 2023, gwahoddodd Lywodraeth Cymru bobl ar draws Cymru i gysylltu â’u cyngor lleol gydag adborth ynghylch sut cafodd y newid hwn ei weithredu yn eu hardaloedd. Cynhaliwyd y cam gwrando hwn rhwng mis Mai 2024 a mis Medi 2024.

Roedd angen yr adborth hwn er mwyn asesu’r newidiadau a geisiwyd yn erbyn y canllawiau diwygiedig ar osod terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd cyfyngedig. Mae’r canllawiau diwygiedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 
 

Yn Wrecsam, cafwyd 440 o ymatebion ar e-bost fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn gofyn i bobl am eu barn ar y ffyrdd 20mya. O’r rhain:

  • roedd 207 yn sylwadau cyffredinol yn erbyn y cynllun 20mya yn ei gyfanrwydd 
  • 152 yn nodi lleoliadau unigol i’w newid yn ôl i rai 30mya
  • 54 yn nodi amryw o leoliadau i’w hadolygu 
  • 27 yn cefnogi’r terfyn 20mya a ddim eisiau gweld unrhyw ffordd yn cael ei newid yn ôl i 30mya

Camau Nesaf

Mae’r sylwadau hyn yn cael eu hadolygu a’u hasesu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. 

Yn ogystal â’r ymgynghoriad cyhoeddus, mae swyddogion wedi defnyddio gwybodaeth a barn broffesiynol i ystyried rhai ffyrdd. Mae hyn wedi’i gefnogi gan ddata a geir ar bob ffordd (nifer y damweiniau ac ati). 

Mae’r ffyrdd sy’n destun cais i’w newid yn ôl i rai 30mya yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi’u rhestru isod. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu a’u hasesu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw ffordd sy’n gymwys yn unol â’r canllawiau yn cael ei hasesu’n llawn ac yn fanwl wedyn yn defnyddio offeryn asesu’r llywodraeth. 

Os yw ffordd yn dal yn gymwys i gael ei newid, yna bydd ymgynghoriad penodol a manwl yn cael ei gynnal yn unol â’r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. 

Mae’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn broses gyfreithiol y mae’n rhaid ei dilyn cyn newid terfyn cyflymder. 

Bydd pob Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn destun ymgynghoriad cyhoeddus lle gall trigolion ddangos cefnogaeth neu wrthwynebu.

Ar ôl ymgynghori ynghylch Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, bydd y penderfyniadau terfynol am unrhyw newid yn cael eu gwneud fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau arferol y Cyngor.

Bydd rhagor o ddiweddariadau ar ôl i ni gwblhau ein hadolygiad. 

Rhestr o’r ffyrdd a gafwyd drwy’r ymgynghoriad

  • Ffordd Caer *hyd cyfan 
  • B5445 Ffordd Caer, yr Orsedd 
  • B5445 Allt Merffordd (cyffordd Ffordd y Coetir i gylchfan yr Orsedd) 
  • B5445 Ffordd Caer, Gresffordd 
  • A5152 Ffordd Caer, Acton 
  • A5152 Ffordd Caer, dinas
  • Lôn Tŷ Gwyn, Acton 
  • Lôn y Bwth, Acton 
  • Lôn yr Efail, Acton
  • Lôn y Pant, Gresffordd 
  • B5373 Lôn y Clapwyr, Gresffordd
  • Ffordd Holt *hyd gyfan 
  • Ffordd Holt (cylchfan Tesco i gylchfan Ffordd Cefn) 
  • Ffordd Holt (cylchfan Ffordd Cefn i Ffordd Gyswllt yr A534)
  • Ffordd Abenbury 
  • Ffordd Cefn, Abenbury 
  • Ffordd Jeffreys, Borras 
  • Ffordd Norfolk, Borras 
  • B5100 Lôn Rhosnesni (cyffordd Ffordd Borras i gylchfan Ffordd Caer)
  • A525 Ffordd Rhuthun, (cyffordd 4 yr A525 i Ffordd Bradle)
  • A541 Ffordd yr Wyddgrug (cyffordd 5 yr A483 i ganol y ddinas) 
  • Ffordd Croesnewydd 
  • Ffordd Bradle, Wrecsam 
  • Cylchffordd fewnol (yn cynnwys Dôl yr Eryrod, Rhodfa San Silyn, Pen-y-Bryn, Ffordd Buddug, Ffordd Bradle, Ffordd Grosvenor) 
  • Ffordd Grosvernor, canol y ddinas 
  • Ffordd Rhosddu, Rhosddu (Lemon Tree i gyffordd pont Stansty) 
  • Ffordd Newydd, Rhosddu (pont Stansty i Stad Ddiwydiannol Rhosddu)
  • B5425 Ffordd Newydd Llai, Llai
  • B5373 Lôn Rackery, Llai 
  • B5373 Ffordd Gresffordd, Llai 
  • B5102 Y Filltir Syth, Llai Croeshywel – Lôn Uchaf, Lôn y Capel, Lôn y Gegin 
  • B5102 Ffordd Llai (Llai i Gefn-y-Bedd) 
  • Ffordd Plas Acton, Pandy 
  • Bluebell Lane, Pandy 
  • Ffordd Glan Llyn – Gwersyllt i Fradle 
  • Ffordd Rhosrobin / Lôn Dodd, Gwersyllt
  • A541, Gwersyllt 
  • Ffordd Brynhyfryd (cylchfan yr A483 i Ffordd yr Aber) 
  • Ffordd Brynhyfryd (Ffordd yr Aber i Ffordd Uchaf) 
  • Ffordd Uchaf, Brynhyfryd 
  • Ffordd Waelod, Brynhyfryd 
  • Lôn Roger, Brynhyfryd 
  • Lôn yr Ysgubau, Gwersyllt 
  • Hen Ffordd yr Wyddgrug, Brynhyfryd
  • A525 Ffordd Melin y Brenin, Hightown 
  • A525 Marchwiail 
  • A525 Lôn Groes
  • A539 Owrtyn i Lannerch Banna 
  • A528, Owrtyn i Ellesmere
  • A5152 Ffordd Rhiwabon, Wrecsam 
  • A5152 Ffordd Wrecsam, Rhostyllen 
  • B5605 Ffordd Wrecsam, Johnstown
  • B5605 Y Stryt Fawr, Johnstown 
  • B5605 Ffordd Rhiwabon, Johnstown 
  • B5605 Ffordd Rhiwabon, Rhiwabon 
  • B5605 Y Stryt Fawr, Rhiwabon 
  • B5426 Allt y Gwter, Rhos 
  • B5426 Stryt yr Allt, Rhos 
  • B5097 Stryt yr Eglwys, Rhos 
  • B5097 Allt y Pant, Rhos 
  • B5097 Ffordd Afoneitha, Penycae
  • Ffordd Plas Bennion / Allt Copperas 
  • B5097 o Blas Bennion i Riwabon (i Ffordd Tatham) 
  • A539 Ffordd Llangollen, Trefor 
  • A539 Ffordd Llangollen, Acrefair 
  • B5605 Ffordd Parc, Rhosymedre, Cefn Mawr 
  • B5070, Y Waun
  • B5426 Ffordd Plas y Mwynglawdd, y Mwynglawdd, 
  • A525 Ffordd Rhuthun / Heol Maelor, Coedpoeth 
  • B5430 Ffordd Talwrn, Coedpoeth
  • Rhodfa'r Ffenics, Brymbo 
  • Ffordd y Ficerdy, Brymbo 
  • Ffordd Ystrad, New Broughton 
  • B5069 Wrthymbre 
  • B5069 Bangor-Is-y-Coed 
  • B5101 Ffordd y Bers, New Broughton 
  • B5433 Ffordd Gatewen, New Broughton 

Cyfyngiadau cyflymder 20mya - Medi 2023

Ar Medi 17, 2023, newidiodd y rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30mya yng Nghymru i 20mya.

Newidiodd y terfyn cyflymder ar strydoedd preswyl a cherddwyr prysur i:

  • wneud ein strydoedd yn fwy diogel, lleihau’r nifer o bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu (yn ogystal â lleihau’r effaith ar y GIG)
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio
  • helpu i wella ein hiechyd a’n lles
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol 

Gwneud strydoedd yn fwy diogel 

Mae lleihau terfyn cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac achub bywydau. 

Pan fydd cerddwr yn cael ei daro gan gerbyd sy’n teithio 30mya maent tua pum gwaith yn fwy tebyg o gael eu lladd nag os byddent yn cael eu taro gan gerbyd yn teithio 20mya.  

Mae astudiaeth iechyd y cyhoedd yn amcangyfrif y gallai terfyn cyflymder diofyn 20mya arwain at:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau 
  • achub 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn 
  • osgoi rhwng 1200 a 2000 o bobl rhag cael eu hanafu bob blwyddyn  

Byddai hyn yn arbed tua £92miliwn o ataliad yn ystod y flwyddyn gyntaf yn unig.  

Annog cerdded a beicio

Bydd cyflymder traffig is yn annog mwy o gerdded a beicio.  

Mewn arolwg barn y cyhoedd, roedd 62% o bobl yn cytuno eu bod yn ‘dymuno y byddai pawb yn arafu i lawr ychydig ar y ffyrdd’ ac roedd 55% yn cytuno y byddai ‘strydoedd yn llawer brafiach i gerddwyr gyda therfyn cyflymder 20mya.’

Cyflymder cerbydau yw un o’r prif resymau pam nad yw bobl yn cerdded na beicio nac yn caniatau i’w plant gerdded neu feicio i’r ysgol.  

Cefnogi 20

Gallwch helpu i greu strydoedd mwy diogel a chymunedau iachach drwy yrru 20mya neu’n is ar strydoedd preswyl a phrysur.  

Bydd GanBwyll a’r Heddlu yn gorfodi’r cyfyngiadau 20mya, fel yn achos unrhyw derfyn cyflymder arall, er mwyn sicrhau bod ein ffyrdd yn fwy diogel i bob defnyddiwr.  Byddant hefyd yn helpu i addysgu ac ymgysylltu â gyrwyr. 

Gweld goleuadau stryd? Meddyliwch 20

Pan fyddwch yn gweld goleuadau stryd, dylech gymryd bod y terfyn cyflymder yn 20mya, oni bai bod yr arwydd yn wahanol.  

Bydd y strydoedd hyn yn gyffredinol yn strydoedd preswyl neu gerddwyr prysur.

Ni newidiodd pob stryd i 20mya. Fe fydd gan y strydoedd sydd yn parhau â therfyn cyflymder 30mya arwyddion 30mya i ddangos hyn i chi.

Dyma newid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gydymffurfio ag ef. 

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol ar draws Cymru ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau 20mya Llywodraeth Cymru (dolen gyswllt allanol), sy’n cynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin.