Mae’n bosibl y bydd plant sy’n ymwneud â’r mathau o adloniant canlynol angen trwydded perfformiad a hebryngwr trwyddedig

  • Teledu
  • ffilm
  • theatr
  • modelu
  • sioeau dawns
  • panto
  • dramâu amatur 
  • grwpiau cerddoriaeth  
  • chwaraeon am dâl (proffesiynol neu amatur)

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i chi gael trwydded pan fydd angen un ac mae’n rhaid i chi ymgeisio am drwydded perfformio plentyn o leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad y perfformiad. 

Gall unrhyw un sy’n achosi neu’n trefnu i unrhyw blentyn wneud unrhyw beth sy’n torri deddfwriaeth trwyddedu gael ei erlyn (pa un a yw plentyn yn perfformio o dan y drwydded ai peidio, mae’r un ddyletswydd gofal yn berthnasol).

Pryd mae plentyn angen trwydded i berfformio?

Mae’n rhaid i chi gael trwydded ar gyfer unrhyw blentyn sy’n perfformio hyd at ddiwedd eu haddysg orfodol (a ddiffinnir fel y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd maent yn troi 16 oed):

  • Pan godir tâl mewn cysylltiad â’r perfformiad (mae hyn yn berthnasol pa un a yw’r perfformwyr yn derbyn tâl ai peidio). 
  • Pan mae’r perfformiad yn digwydd mewn eiddo trwyddedig neu glwb cofrestredig 
  • Pan fydd y perfformiad yn cael ei recordio i gael ei ddarlledu neu ei arddangos (er enghraifft ar y teledu, radio, ffilm, rhyngrwyd).

Gwneud cais am drwydded

Mae’r cais hwn i blant sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam (mae’n rhaid i chi ymgeisio am drwydded drwy’r awdurdod lleol ble mae’r plentyn yn byw).    

Dylech anfon e-bost at child_employment@wrexham.gov.uk i ofyn am ffurflen gais trwydded perfformio ar gyfer plentyn.

Eithriadau

Nid yw’r eithriadau hyn yn berthnasol ar gyfer chwaraeon am dâl neu fodelu am dâl. 

Bydd eithriad yn berthnasol ble na wneir tâl i blentyn sy’n cymryd rhan yn y perfformiad i’r plentyn neu unigolyn arall, heblaw am dreuliau.

Yr eithriadau yw:

1. Y rheol 4 diwrnod 

Os nad yw’r plentyn wedi perfformio ar fwy na 3 diwrnod yn y 6 mis diwethaf, ni fyddant angen trwydded ar gyfer perfformio ar y pedwerydd diwrnod. Fodd bynnag, os bydd plentyn yn absennol o’r ysgol nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol a byddant angen trwydded.   

2. Cymeradwyaeth Corff o Bersonau (BOPA) 

Mewn rhai achosion, mae trefnydd perfformiad sy’n cynnwys plant yn gallu ymgeisio am BOPA.

3. Perfformiad a drefnwyd gan ysgol 

Nid yw hyn yn cynnwys ysgol ddawns na drama, sy’n gorfod ymgeisio am drwyddedau ble bo’r angen.

Ymgeisio am eithriad 

Dylech anfon e-bost at child_employment@wrexham.gov.uk i ofyn am ffurflen gais ar gyfer eithrio.

Cymeradwyaeth Corff o Bersonau (BOPA)

Mae BOPA yn cynnwys pob plentyn mewn un cymeradwyaeth, sy’n dileu’r angen i ymgeisio am drwydded unigol i bob plentyn.

Mae sefydliad yn gallu ymgeisio am BOPA, cyn belled ag nad yw’r un plentyn yn cael ei dalu.  Mae’n cael ei roi i’r sefydliad sy’n gyfrifol am y perfformiad.    

Fel yr awdurdod lleol, mae’r penderfyniad i gyflwyno BOPA yn ôl ein disgresiwn.

Ymgeisio am BOPA

Mae’r cais hwn ar gyfer perfformiad ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam (mae’n rhaid i chi ymgeisio i’r awdurdod lleol ble mae’r perfformiad yn cael ei gynnal).  

Dechrau rŵan

 

Canllawiau pellach

Cysylltu â’n tîm cyflogi plant

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon e-bost at child_employment@wrexham.gov.uk.