Cyflenwad dŵr preifat yw unrhyw gyflenwad dŵr sydd heb gael ei ddarparu gan gwmni dŵr (dŵr yfed prif gyflenwad). Maent i’w cael yn bennaf yn rhannau mwy gwledig y Fwrdeistref Sirol.
Gall man cyflenwi unigol wasanaethu dim ond un eiddo neu amryw ohonynt.
Mathau o Gyflenwadau Dŵr Preifat
Mae ein cyngor ar golli dŵr o gyflenwadau dŵr preifat hefyd yn disgrifio ‘dosbarthiad pellach’ neu rwydweithiau ‘dosbarthu preifat’. Mae’r rhwydweithiau hyn hefyd yn cael eu hystyried fel cyflenwadau dŵr preifat o dan Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017.
Halogiad a thriniaeth
Gall gyflenwadau dŵr preifat gael eu halogi gydag amrywiaeth o ficro-organebau a chemegion. Efallai na fydd modd dweud a yw eich dŵr wedi cael ei halogi trwy ei flas, wrth edrych arno neu o’i arogl.
Mae llawer ohonynt yn ddiniwed ond fe all rhai achosi salwch difrifol neu leihau effeithiolrwydd unrhyw brosesau trin.
Mathau o Halogiad
Triniaeth
Mae ansawdd dŵr da yn hanfodol ar gyfer iechyd da. Mae’r dŵr yfed o brif gyflenwad yn mynd drwy amryw brosesau puro dwys yn y gwaith trin cyn cyrraedd tap y defnyddiwr. Nid yw hyn bob amser yn bosibl gyda chyflenwadau dŵr preifat, ond mae technegau a all gael eu defnyddio i sicrhau bod y cyflenwad yn ddiogel i yfed.
Gall halogiad micro-organeb gael ei drin drwy hidlo’r amhurdebau mawr; ac yna sterileiddio uwchfioled. Mae systemau hidlo a sterileiddio uwchfioled angen eu cynnal a chadw yn rheolaidd er mwyn bod yn effeithiol.
Cynnal a chadw’r cyflenwad dŵr
Atal halogiad mewn mathau penodol o ddŵr
Cysylltu â phrif gyflenwad dŵr
Os penderfynwch nad ydych eisiau defnyddio eich cyflenwad dŵr preifat mwyach, gallwch gysylltu â’ch cwmni dŵr lleol ynghylch cysylltu â’r prif gyflenwad. Efallai y byddwch yn gorfod talu’r holl gostau wrth wneud hynny a dylech drafod hyn gyda’r cwmni dŵr.
Mae’r cwmnïau dŵr isod yn darparu dŵr i Wrecsam: