Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu. Mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau fod bywyd yn deg i bawb.
Bob pedair blynedd rydym yn adnabod set o ganlyniadau cydraddoldeb strategol rydym eisiau gweithio tuag atynt sy’n rhan o Gynllun y Cyngor.
Deddfwriaeth Berthnasol
Fel awdurdod lleol mae rhai dyletswyddau yn ymwneud â chydraddoldeb sy’n rhaid i ni eu diwallu yn ôl y gyfraith.
Data ac Adrodd ar Gydraddoldeb
Defnyddiwn wybodaeth berthnasol am gydraddoldeb i wneud y canlynol:
- adolygu ein canlyniadau cydraddoldeb i sicrhau eu bod yn parhau i fod y meysydd canolbwynt cywir
- hysbysu gwneud penderfyniadau ar draws y Cyngor
Ble’n bosib defnyddiwn ystod o ffynonellau data gan gynnwys ystadegau, adroddiadau ymchwil ac ymgynghoriad neu adborth ymgysylltu. Gellir dod o hyd i rywfaint o’r data a ddefnyddiwyd, gan gynnwys data ar nodweddion gwarchodedig, ar ein tudalen data ac ymchwil.