Gall larymau cerbydau sy’n canu ar y stryd neu dir preifat fod yn niwsans sŵn.
Mae ‘stryd’ yn golygu priffordd, ffordd, troedffordd, sgwâr neu gwrt sydd ar agor i’r cyhoedd. Os yw larwm cerbyd yn canu ar y stryd, nid oes angen gwarant i ni gynnal gwaith i atal y niwsans sŵn.
Os yw larwm cerbyd yn canu ar dir preifat, mae angen gwarant i atal y niwsans sŵn. Byddwn yn ymchwilio i ffynhonnell y sŵn, yn perfformio chwiliad y DVLA i ganfod y perchennog ac, os nad oes modd canfod y perchennog, yn cyflwyno rhybudd i’r perchennog i ddiffodd y larwm.
Gellir diffodd y larwm a/neu symud y cerbyd awr ar ôl cyflwyno’r Rhybudd. Mae diffodd larymau a/neu symud cerbydau yn gofyn am arbenigedd cwmnïau arbenigol i weithredu ar ein rhan.