Mae’r gronfa hon yn un o chwe Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r cyllid ar gyfer y grant hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Prif nod y grant hwn yw i gyfrannu at y nodau a nodir yng Nghynllun Creu Lleoedd y Cyngor i wella canol Wrecsam ac annog pobl i ail-ddychmygu a dylanwadu ar sut y dylai edrych, teimlo, a gweithredu.
Mae’r uchelgais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, gyda’r cais yn barod i’w gyflwyno yn 2025, yn golygu bod yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyfnod tyngedfennol ar gyfer siapio canol Wrecsam. Fel rhan o’r uchelgais hwn, rydym yn awyddus i galonogi digwyddiadau ar raddfa fawr ac o ansawdd uchel sy’n cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn cyfrannu at ddatblygu’r economi.
Mae cyfanswm o £55,000 bellach ar gael i wneud cais amdano; er mwyn cynnal digwyddiadau unigryw sy'n cynyddu nifer yr ymwelwyr yng Nghanol y Ddinas ac yn cael effaith ar y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r grantiau canlynol ar gael:
- 3 x grant £10,000
- 5 x grant £5000
Rydym yn gwahodd sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol, busnesau, a sefydliadau trydydd sector i wneud cais am y grantiau hyn i ddarparu gweithgarwch diwylliannol i’w cynnal yng Nghanol Dinas Wrecsam cyn 31 Hydref, 2024.
I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i'r ymgeisydd fod yn sefydliad gwirfoddol, busnes neu grŵp cymunedol cyfansoddiadol a sefydledig, a dylai fod â chyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn enw'r sefydliad neu dylai fod â sefydliad cynnal sy'n barod i dderbyn yr arian ar ei ran.
Amcanion ceisiadau
Rhaid i geisiadau fodloni'r meini prawf craidd canlynol:
- Dangos y gallu i gasglu / mesur ac adrodd yn gywir ar allbwn SPF gorfodol o ran lefelau cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod y digwyddiad a chyfrannu at gyflawni allbynnau a chanlyniadau SPF ehangach o fewn ffiniau Canol y Ddinas fel yr amlinellir yn y Cynllun Creu Lleoedd.
- Dangos bod y digwyddiad yn ychwanegu rhywbeth o werth uchel at y gymuned leol, gan ychwanegu rhywbeth newydd a gwahanol at yr arlwy ddiwylliannol bresennol.
- Dangos bod cyllid SPF yn ofynnol er mwyn galluogi’r digwyddiad neu weithgaredd hwn i fynd yn ei flaen.
- Rhaid i’r holl hyrwyddo a marchnata sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd ddangos bod cefnogaeth ariannol wedi’i darparu trwy SPF gan gynnwys y logo ‘Ffyniant Bro’, a chefnogaeth i gais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 trwy gynnwys logo’r ymgyrch.
- Rhaid cynnal digwyddiadau a rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 31 Hydref, 2024.
- Telir y grant yn ôl-weithredol felly bydd angen i’ch sefydliad dalu’r costau angenrheidiol er mwyn cwblhau’r prosiect cyn hawlio’r grant gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Gellir cyflwyno hawliadau gwariant interim cyn cwblhau'r digwyddiad/gweithgaredd.
Rhaid i geisiadau ddangos costau rhesymol ar gyfer gweithgaredd / gwerth am arian, a rhaid i unrhyw wariant gael ei gadarnhau mewn perthynas â'r holl gostau.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch ffurflen gais lawn i amlinellu eich prosiect a chaniatáu i ni wirio a yw eich sefydliad a'ch prosiect arfaethedig yn gymwys i wneud cais i'r gronfa allweddol.
Darperir y ffurflen drwy FyNghyfrif, sy’n caniatáu i chi gadw unrhyw gynnydd, uwchlwytho tystiolaeth a pharatoi eich cais llawn i’w gyflwyno.
Bydd yn rhaid i chi gofrestru am gyfrif ar gyfer eich sefydliad ar FyNghyfrif er mwyn gallu gwneud hyn.
Unwaith y byddwn wedi derbyn y ceisiadau llawn, y camau nesaf fydd:
- Bydd y tîm perthnasol yn gwerthuso’r cais llawn.
- Byddwn yn ceisio barn gan fudd-ddeiliaid perthnasol.
- Bydd y Panel Ymgynghorol Lleol yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiect, ac yna’n cymeradwyo neu’n gwrthod y cais llawn.
- Bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu o’r penderfyniad.
- Byddwn yn cyflwyno cytundebau cyllid grant ffurfiol ar gyfer ceisiadau llwyddiannus.
Drwy gyflwyno cais llawn, rydych yn caniatáu i ni (Cyngor Wrecsam) wneud unrhyw ymholiadau hanfodol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei rhannu gydag eraill fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Allweddol Wrecsam.
Y terfynau amser a’r amserlen ar gyfer ceisiadau
Rhaid derbyn ceisiadau llawn erbyn Mawrth 31, 2024.
Fe all cyfleoedd i gyflwyno cynigion ar gyfer y dyfodol gael eu hagor os oes cyllid yn dal ar gael.
Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad eich cais drwy e-bost.
Pryd fydd y taliad grant yn cael ei wneud?
Bydd taliadau i ymgeiswyr yn cael eu gwneud yn ôl-weithredol unwaith y bydd hawliadau gwariant (derbynebau ac anfonebau) yn cael eu cyflwyno. Gellir cyflwyno hawliadau gwariant interim cyn i'r digwyddiad/gweithgaredd gael ei gwblhau.