Mae’r gronfa hon yn un o chwe Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r cyllid ar gyfer y grant hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Amcan cyffredinol y gronfa hon yw cynyddu lefelau rhifedd ymarferol ymysg oedolion ledled y DU.
Gall y cyllid hwn helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol. Mae’r cynllun yn cynnig gwerth rhwng £10,000 a £200,000 o gyllid i gefnogi prosiectau a fydd yn arwain at:
- Fwy o oedolion yn ennill cymwysterau mathemateg / cymryd rhan mewn cyrsiau rhifedd (hyd at, ac yn cynnwys, Lefel 2 / SCQF Lefel 5).
- Canlyniadau gwell i’r farchnad lafur e.e. llai o fylchau sgiliau rhifedd yn cael eu hadrodd gan gyflogwyr, a chynnydd yn y gyfran o oedolion sy’n mynd ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy ac / neu addysg.
- Cynyddu rhifedd oedolion ar draws y boblogaeth - mae hyn yn effaith gyffredinol sy’n mynd y tu hwnt i gyflawni tystysgrifau neu gymwysterau. Bydd hyn yn olrhain y gwahaniaeth canfyddedig a gwirioneddol y mae cymryd rhan yn y rhaglen yn ei wneud wrth gefnogi dysgwyr i wella eu dealltwriaeth a’u defnydd o fathemateg yn eu bywydau bob dydd, yn y cartref ac yn y gwaith – a theimlo’n fwy hyderus wrth wneud hynny.
Pwy fydd yn gorfod elwa o’r prosiect?
Oedolion 19 oed+ nad ydynt wedi ennill cymhwyster mathemateg Lefel 2/SCQF Lefel 5 neu uwch (cyfwerth â TGAU Gradd C/4) yn flaenorol.
Gallent fod naill ai’n gweithio tuag at Gymhwyster Lefel 2 / SCQF Lefel 5 neu Gymhwyster Sgiliau Ymarferol, bod angen sgiliau rhifedd penodol arnynt ar gyfer eu gwaith neu ddatblygiad, neu eu bod yn dymuno gwella eu sgiliau i’w helpu i symud ymlaen mewn bywyd a gwaith.
Pwy all wneud cais?
- Awdurdodau lleol
- sefydliadau’r sector cyhoeddus
- sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach
- cwmnïau’r sector preifat
- sefydliadau cymunedol / nid er elw/ gwirfoddol sefydledig/ mentrau cymdeithasol
- clybiau / grwpiau cymunedol sefydledig
- elusennau cofrestredig.
Ar beth allwch chi wario’r arian
- costau staff sy’n gysylltiedig â’r prosiect
- costau hyfforddi
- cludiant sy’n gysylltiedig â’r prosiect
- costau cynnal neu gyfleustodau sy’n gysylltiedig â’r prosiect
- llogi ystafell
- costau tiwtor
- treuliau gwirfoddolwyr
- costau gweinyddol
- marchnata
- creu astudiaeth achos
- pecynnau adnoddau
- costau ar gyfer darparu eich prosiect yn ddwyieithog megis costau cyfieithu
Beth na allwn ei ariannu
- lobïo a delir amdano, diddanu, deisebu neu herio penderfyniadau - sy’n golygu defnyddio’r gronfa i lobïo (drwy gwmni allanol neu staff mewnol) er mwyn cynnal gweithgareddau sydd â’r bwriad o ddylanwadu neu geisio dylanwadu ar y Senedd, llywodraeth neu weithgarwch gwleidyddol; gan gynnwys derbyn cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU; neu geisio dylanwadu ar ddeddfwriaeth neu gam gweithredu rheoleiddiol
- taliadau ar gyfer gweithgareddau o natur wleidyddol neu o natur grefyddol yn unig
- TAW y mae modd ei adennill gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi
- rhoddion, neu daliadau am anrhegion neu roddion
- dirwyon statudol, dirwyon troseddol neu gosbau
- talu am waith neu weithgarwch y mae gan yr awdurdod lleol arweiniol, cyflawnwr y prosiect, buddiolwr ar y diwedd neu unrhyw aelod o’u partneriaeth ddyletswydd statudol i’w gynnal neu a gaiff ei ariannu’n llawn gan ffynonellau eraill
- gweithgareddau statudol
- arian at raid a dyledion digwyddiadol, benthyciadau, gwaddol neu log
- buddrannau
- drwgddyledion, costau o ganlyniad i ohirio taliadau i gredydwyr, neu ddirwyn cwmni i ben
- treuliau mewn perthynas ag ymgyfreithiad, diswyddo annheg neu iawndal arall
- costau a ysgwyddir gan unigolion wrth sefydlu a chyfrannu at gynlluniau pensiwn preifat
- alcohol
- gweithgareddau i godi arian neu wneud elw teithio dramor
Sut i ymgeisio
Bydd ceisiadau am gyllid yn dilyn proses un gam:
Bydd yn rhaid i chi gofrestru am gyfrif ar gyfer eich sefydliad drwy FyNghyfrif i allu gwneud cais.
Darperir ffurflen gais trwy FyNghyfrif, sy’n eich galluogi i arbed cynnydd, lanlwytho tystiolaeth a chyflwyno'ch cais llawn.
Mae ceisiadau am y grant hwn ar gau ar hyn o bryd. Mae’n bosib y gellir gwneud ceisiadau am y grant eto pe daw unrhyw arian ar gael i'w ailddyrannu.