Mae’r cyfnod derbyn Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer y grant hwn wedi dod i ben. Mae’n bosibl y caiff y grant ei ailagor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb pe bai unrhyw gyllid ar gael i’w ailddyrannu. 

Gallwch ddarllen trwy’r canllawiau grant i baratoi rhag ofn i’r grant ailagor. Er mwyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, bydd angen i’r ymgeisydd arweiniol gofrestru ar gyfer FyNghyfrif (gallwch wneud hyn nawr) er mwyn rheoli cais y fenter.

Mae’r gronfa hon yn un o chwe Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Pwrpas y grant hwn yw helpu mentrau ariannol hyfyw i ddechrau, tyfu / ehangu neu wella eu perfformiad.  

Mae’r cyllid ar gyfer y grant hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
 

Logo Llywodraeth y DU
Logo "Wedi'i yrru gan Ffyniant Bro"

Crynodeb o’r cynllun grant

  • Mae’r cynllun grant hwn ar agor i fentrau nad ydynt wedi dechrau eto a mentrau sydd eisoes yn bod (sy’n cynhyrchu refeniw o weithgarwch busnes) a fydd neu sydd yn cael eu rhedeg ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. 
  • Gall gefnogi, fel ad-daliad, hyd at 50% o’r costau ar gyfer prosiect cyfalaf a / neu wariant refeniw arbenigol cymwys – mae’n rhaid i gyfanswm y grant yr ydych chi’n ymgeisio amdano amrywio o £3,000 i £50,000. 
  • Mae’n rhaid bodloni o leiaf dau o amcanion a osodwyd y cynllun grant, gyda’r allbynnau yn gymesur i’r gwerth grant a ofynnwyd amdano. 
  • Mae’n rhaid cyflawni allbynnau’r prosiect erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf.  
  • Mae’n rhaid i fenter gael y modd (un ai trwy ei arian ei hun neu gronfeydd eraill) i ariannu costau’r prosiect yn llawn i ddechrau.  
  • Bydd y cynllun grant yn aros ar agor tan 1 Medi 2024 neu tan fydd yr holl gyllid sydd ar gael wedi’i ymrwymo’n llawn.   
  • Mae hwn yn grant dewisol – bydd ceisiadau yn amodol ar asesiad cychwynnol gan ein tîm Busnes a Buddsoddi ac yn cael ei gymeradwyo gan banel grant.  

    Caiff mynegiannau o ddiddordeb eu hasesu ar sail y cyntaf i’r felin a bydd gwahoddiadau i gyflwyno cais llawn yn cael eu rhoi yn yr un drefn.  Bydd y penderfyniad a ddylid cynnig grant ai peidio yn cael ei wneud yn seiliedig ar gyllid sydd ar gael, cymhwysedd, gwerth am arian yn nhermau’r allbynnau i’w cyflawni ac yn unol â nodau ac amcanion y cynllun. 

Canllawiau pellach o ran y grant

Os fydd eich Mynegiant o Ddiddordeb yn llwyddiannus, fe fyddwch chi’n cael eich gwahodd i lenwi cais llawn, gwiriwch y wybodaeth y bydd angen i chi ei ddarparu ar gyfer hyn yn y canllaw ymgeisio llawn.