Mae’r cyfnod derbyn Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer y grant hwn wedi dod i ben. Mae’n bosibl y caiff y grant ei ailagor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb pe bai unrhyw gyllid ar gael i’w ailddyrannu.

Mae’r gronfa hon yn un o chwe Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r cyllid ar gyfer y grant hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Logo wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Gall y gronfa allweddol hon helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol. Mae’r cynllun yn cynnig rhwng £2,000 a  £125,000 o gyllid i gefnogi prosiectau a fydd yn:  

  • Cryfhau’r gwead cymdeithasol ac yn maethu ymdeimlad o urddas lleol a pherthyn drwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n cyfoethogi cysylltiadau corfforol, diwylliannol a chymdeithasol a mynediad at amwynderau, megis isadeiledd cymunedol a mannau gwyrdd lleol, a phrosiectau a gaiff eu harwain gan y gymuned.  
  • Meithrin cymdogaethau iach, gwydn a diogel, drwy fuddsoddi mewn llefydd o ansawdd uchel y mae pobl yn dymuno byw, gweithio, chwarae a dysgu yno, drwy wneud gwelliannau wedi’u targedu yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol, a dulliau arloesol i atal trosedd.  

Pwy all wneud cais?

  • sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sefydledig 
  • elusennau cofrestredig
  • grwpiau neu glybiau sefydledig 
  • cwmnïau nid er elw neu gwmnïau buddiannau cymunedol (mentrau cymdeithasol) 
  • ysgolion (cyn belled bod eich prosiect er budd ac yn cynnwys y gymuned leol) 
  • cyrff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned) 
  • cyrff cyhoeddus  

Ar beth fyddwch yn gwario’r arian?

  • offer
  • digwyddiadau untro
  • costau staff sy’n gysylltiedig â’r prosiect 
  • costau hyfforddi
  • cludiant sy’n gysylltiedig â’r prosiect  
  • costau cynnal neu gyfleustodau sy’n gysylltiedig â’r prosiect  
  • treuliau gwirfoddolwyr 
  • costau ar gyfer darparu eich prosiect yn ddwyieithog megis costau cyfieithu 
  • prosiectau tir neu adeiladau bach
  • ailwampio adeiladau 

Beth na ellir ei ariannu

  • prosiectau gyda’r prif nod o gynhyrchu incwm i’ch sefydliad 
  • costau wrth gefn, benthyciadau, cyfraniadau neu log 
  • gweithgareddau crefyddol
  • gweithgareddau i godi arian neu wneud elw
  • TAW y gallwch ei adennill
  • gweithgareddau statudol 
  • teithio dramor
  • alcohol

Sut i ymgeisio

Bydd ceisiadau am gyllid yn dilyn proses dau gam: 

Cam 1

Dylid cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i amlinellu eich prosiect a fydd yn ein galluogi i wirio p’un a yw eich sefydliad a’ch prosiect arfaethedig yn gymwys i wneud cais i’r gronfa allweddol hon.

Bydd yn rhaid i chi gofrestru am gyfrif ar gyfer eich sefydliad ar FyNghyfrif er mwyn gallu gwneud hyn.  

Cam 2

Ar ôl cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn asesu p’un a yw eich sefydliad a’ch prosiect yn gymwys i ymgeisio am y gronfa allweddol.

Os bydd eich cais yn gymwys, byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i’r ffurflen gais lawn. Darperir y ffurflen drwy FyNghyfrif, sy’n caniatáu i chi gadw unrhyw gynnydd, uwchlwytho tystiolaeth a pharatoi eich cais llawn i’w gyflwyno.  

Unwaith y byddwn wedi derbyn y ceisiadau llawn, y camau nesaf fydd: 

  1. Bydd y tîm perthnasol yn gwerthuso’r cais llawn. 
  2. Byddwn yn ceisio barn gan fudd-ddeiliaid perthnasol. 
  3. Bydd y Panel Ymgynghorol Lleol yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiect, ac yna’n cymeradwyo neu’n gwrthod y cais llawn.  
  4. Bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu o’r penderfyniad. 
  5. Byddwn yn cyflwyno cytundebau cyllid grant ffurfiol ar gyfer ceisiadau llwyddiannus.  

Drwy gyflwyno cais llawn, rydych yn caniatáu i ni (Cyngor Wrecsam) wneud unrhyw ymholiadau hanfodol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei rhannu gydag eraill fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Allweddol Wrecsam.

Y terfynau amser a’r amserlen ar gyfer ceisiadau  

Mae’r cais cychwynnol (cam 1 - y Datganiad o Ddiddordeb i’w gyflwyno o fewn 10 diwrnod gwaith o 22 Ionawr, 2024. 

Unwaith y bydd yr holl geisiadau wedi eu hasesu, bydd gan brosiectau llwyddiannus 15 diwrnod gwaith i gyflwyno cais llawn.

Fe all cyfleoedd i gyflwyno cynigion ar gyfer y dyfodol gael eu hagor os oes cyllid yn dal ar gael. 

Sut bydd ceisiadau yn cael eu hasesu?

Bydd y ceisiadau llawn yn cael eu hasesu a’u hystyried yn nhermau: 

  • cymhwysedd
  • gwerth am arian yn seiliedig ar allbynnau / canlyniadau i’w cyflawni ac yn unol â nodau ac amcanion y cynllun