Gwnewch yn siŵr bod y canlyniadau’n ymwneud yn uniongyrchol â'r themâu a'r is-themâu y bydd eich prosiect yn canolbwyntio arnynt. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cronfa Ffyniant Gyffredin Wrecsam 2025-2026.

Byddwch yn realistig ynghylch nifer y canlyniadau sy'n debygol o gael eu cyflawni oherwydd efallai y bydd angen adfachu grant os na chyflawnir targedau. 

Os bydd eich prosiect yn cyflawni canlyniadau ychwanegol wrth ei gyflwyno, byddwch yn gallu adrodd ar y rhain fel canlyniadau eilaidd fel rhan o'r broses hawlio. 

Pa Ganlyniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU fydd y prosiect yn eu cyflawni a beth yw'r niferoedd targed? 
Dangosydd canlyniadUned fesur
OC1: Cynnydd yn nifer yr eiddo sydd wedi'u diogelu'n well rhag llifogydd ac erydu arfordirolNifer yr eiddo
OC2: Mwy o ddefnydd o lwybrau beicio neu lwybrau cerddedNifer y beicwyr neu gerddwyr
OC3: Nifer yr unedau gwag sydd wedi'u llenwiNifer yr unedau gwag sydd wedi'u llenwi
OC4: Mwy o ddefnyddwyr cyfleusterau/amwynderauNifer y defnyddwyr
OC5: Mwy o ymwelwyrNifer y bobl
OC6: Cynnydd mewn gwariant ymwelwyrSwm y gwariant ymwelwyr mewn £
OC7: Safleoedd sydd â gwell cysylltedd digidol o ganlyniad i gymorthNifer y safleoedd
OC8: Swyddi sydd wedi’u creu o ganlyniad i gymorthNifer cyfwerth ag amser llawn
OC9: Swyddi sydd wedi’u diogelu o ganlyniad i gymorth Nifer cyfwerth ag amser llawn
OC10: Nifer y mentrau newydd sydd wedi’u creu o ganlyniad i gymorthNifer y mentrau newydd
OC11: Nifer y mentrau sy'n mabwysiadu cynnyrch neu wasanaethau newydd neu well Nifer y mentrau
OC12: Nifer y mentrau sy’n mabwysiadu technolegau neu brosesau sy’n newydd i’r cwmniNifer y mentrau
OC13: Nifer y mentrau sydd wedi’u cysylltu â marchnadoedd newydd Nifer y mentrau
OC14: Nifer y mentrau sydd â chynhyrchiant gwellNifer y mentrau
OC15: Nifer y cynnyrch sy’n newydd i’r farchnadNifer y cynnyrch
OC16: Nifer y sefydliadau sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth ar ôl cael cymorthNifer y sefydliadau
OC17: Nifer y mentrau Ymchwil a Datblygu actifNifer y mentrau
OC18: Gwell niferoedd ymgysylltuNifer y bobl
OC19: Nifer y rhaglenni celfyddydol, diwylliannol, treftadaeth a chreadigol dan arweiniad y gymuned o ganlyniad i gymorthNifer y rhaglenni
OC20: Nifer y bobl mewn cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, ar ôl cael cymorth Nifer y bobl
OC21: Nifer y bobl mewn cyflogaeth am 6 misNifer y bobl
OC22: Nifer y bobl mewn addysg/hyfforddiant ar ôl cael cymorthNifer y bobl
OC23: Nifer y bobl â sgiliau sylfaenol ar ôl cael cymorthNifer y bobl
OC24: Pobl sy'n ennill cymhwyster neu'n cwblhau cwrs ar ôl cael cymorthNifer y bobl
OC25: Nifer yr oedolion sy'n cyflawni cymwysterau mathemateg hyd at, ac yn cynnwys, rhai cyfwerth â Lefel 2Nifer yr oedolion
OC26: Nifer y bobl sy'n adrodd gwell cyflogadwyedd ar ôl datblygu sgiliau rhyngbersonol drwy gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DUNifer y bobl
OC27: Amcangyfrif o’r gostyngiadau cyfwerth â charbon deuocsid o ganlyniad i gymorthTunelli o CO2e
OC28: Troseddau cymdogaethNifer y troseddau yr adroddwyd amdanynt
OC29: Nifer y cyfleoedd gwirfoddoli sydd wedi’u creu o ganlyniad i gymorthNifer y rolau gwirfoddoli sydd wedi’u creu
OC30: Nifer y prosiectau sy'n deillio o astudiaethau dichonoldeb a ariannwydNifer y prosiectau