Darllenwch hwn ochr yn ochr â Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Wrecsam yn gwahodd ceisiadau o £50,000 i £700,000 i gefnogi prosiectau a fydd yn ceisio sicrhau canlyniadau ystyrlon sydd o fudd i gymunedau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU) 2025-2026 yn cynorthwyo Cenhadaeth Llywodraeth y DU yn rhagweithiol, gan wthio pŵer i gymunedau ym mhobman, gyda ffocws penodol i helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd. Y pum cenhadaeth yw: 

  • Cenhadaeth 1: Sbarduno twf economaidd  
  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn uwch-bŵer o ran ynni glân
  • Cenhadaeth 3: Cymryd rheolaeth yn ôl o'n strydoedd 
  • Cenhadaeth 4: Chwalu'r rhwystrau i gyfleoedd
  • Cenhadaeth 5: Adeiladu GIG sy'n barod at y dyfodol

Nodir themâu dan arweiniad cenhadaeth 2025-2026 yn dri maes blaenoriaeth; 

  • Cymunedau a Lle  
  • Cymorth i Fusnesau Lleol
  • Pobl a Sgiliau  

O fewn y blaenoriaethau hyn mae 5 thema a 12 is-thema.

Wrth wneud eich cais, rhaid i chi ddewis o leiaf un flaenoriaeth, thema ac is-thema ar gyfer eich prosiect.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael yn nodyn technegol Llywodraeth y DU.

Allbynnau a chanlyniadau

Mae'r rhestr wedi'i symleiddio felly erbyn hyn mae 28 allbwnnau a 30 chanlyniadau y gellir eu dewis. Nid ydynt wedi'u cyfyngu i rai themâu neu is-themâu, ond dim ond lle bo'n berthnasol i'ch prosiect y dylid eu dewis.

Pwyntiau i'w hystyried wrth wneud eich cais

Yn ogystal â dangos aliniad â CFfGDU ei hun, rhaid i brosiectau sy’n ceisio cymorth yn Wrecsam:

  • dangos sut maent yn ychwanegu gwerth at, ac wedi’u hintegreiddio â, gweithgarwch cyfredol ac arfaethedig yn y maes perthnasol, gan osgoi dyblygu
  • ymgysylltu â, ac ennill cefnogaeth gan, rhanddeiliaid perthnasol yn y maes gweithgarwch a’r ardaloedd y byddant yn gweithredu ynddynt
  • helpu i wireddu - neu fod yn cyd-fynd â pholisïau a strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol gan gynnwys cenadaethau newydd y llywodraeth i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd
  • deall a mynd i'r afael ag anghenion yr ardaloedd lleol y maent yn bwriadu gweithredu ynddynt a helpu i wireddu'r blaenoriaethau / strategaethau lleol perthnasol

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Awdurdodau lleol, sefydliadau'r sector cyhoeddus, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, cwmnïau'r sector preifat, sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol ac elusennau cofrestredig.

Costau’r project

Bydd costau'r prosiect yn cael eu hadrodd yn erbyn blaenoriaethau buddsoddi, themâu ac is-themâu. 

O fewn y ffurflen gais mae maes gorfodol i'w gwblhau i aseinio pob math o gost gwariant yn erbyn blaenoriaeth buddsoddi, thema ac is-thema. Dewiswch o'r blaenoriaethau, y themâu a'r is-themâu a ddewiswyd gennych fel rhan o'ch cais yn unig. 

Costau refeniw

Costau staff sy'n gysylltiedig â'r prosiect, costau hyfforddi, cludiant sy'n gysylltiedig â'r prosiect, cyfleustodau neu gostau rhedeg sy'n gysylltiedig â'r prosiect, llogi ystafelloedd, costau tiwtor, costau gwirfoddoli, costau gweinyddu, marchnata, creu astudiaeth achos, costau i gynhyrchu pecynnau adnoddau/ymgysylltu, costau ar gyfer cyflwyno'ch prosiect yn ddwyieithog fel costau cyfieithu. 

Costau cyfalaf

Nodwch fod hon yn rhaglen 12 mis a rhaid cwblhau'r holl waith erbyn dyddiad gorffen y prosiect a heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2026. Gofynnwch a oes angen eglurhad pellach arnoch. 

Nid oes angen arian cyfatebol ar Gronfa CFfG Wrecsam, fodd bynnag, croesewir arian cyfatebol.

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Gellir cyflwyno ffurflen gais yn Gymraeg, ac ni fydd yn cael ei thrin yn llai ffafriol na ffurflen gais a gyflwynir yn Saesneg.