Mae’r Gronfa hon yn un o chwe Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Gallwch ddod o hyd i ragor o ganllawiau ar gyfer y grant hwn.
Mae hwn yn gynllun grant dewisol a fydd yn aros ar agor tan 1 Medi 2024 (neu tan fydd y gronfa wedi’i hymrwymo’n llawn).
Bydd y cynllun grant yn rhedeg fel a ganlyn, tra bod cyllid yn dal ar gael:
- Bydd ymgeiswyr arfaethedig yn gallu cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.
- Bydd y Datganiadau o Ddiddordeb yn cael eu hadolygu a’u hasesu yn y drefn y byddant yn dod i law ein tîm Busnes a Buddsoddi.
- Yn amodol ar Ddatganiad o Ddiddordeb llwyddiannus, caiff gwahoddiad ei gynnig i gyflwyno cais llawn cyn pen 5 diwrnod gwaith o roi’r gwahoddiad.
- Bydd ein tîm Busnes a Buddsoddi yn cwblhau adolygiadau cais llawn, asesiadau a gwiriadau diwydrwydd dyladwy.
- Caiff ceisiadau addas eu hystyried gan banel grant yn amodol ar gyllid sydd ar gael.
- Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael e-bost cynnig grant, a fydd angen iddynt ei dderbyn.
- Ar ôl derbyn cynnig grant; bydd ymgeiswyr yn cael cymeradwyaeth i ddechrau gweithgarwch y prosiect a ffurflen hawlio grant y mae’n rhaid ei chyflwyno ar ôl cwblhau’r prosiect. Bydd angen cyflwyno hon (erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf) i gyflwyno tystiolaeth ddigonol o’r allbynnau a darpariaeth y prosiect, er mwyn hawlio’r grant.
- Rhoddir grant yn amodol ar gwblhau'r prosiect y cytunwyd arno a chyflawni a chyflwyno tystiolaeth ddigonol o'r allbynnau cytunedig erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf (gan fodloni’r amodau a thelerau hefyd).
Caiff Datganiadau o Ddiddordeb eu hasesu ar sail y cyntaf i’r felin. Caiff gwahoddiadau i lenwi cais llawn a chynigion grant eu gwneud (yn y drefn y daw Datganiadau o Ddiddordeb i law) ar sail cyllid sydd ar gael, cymhwysedd a gwerth am arian.
Unwaith byddwch wedi gwirio’r holl ganllawiau ar gyfer y grant hwn gallwch gyflwyno cais Datganiad o Ddiddordeb (oni bai bod yn rhaid i ni oedi neu gau’r ceisiadau Datganiad o Ddiddordeb oherwydd galw sylweddol).
Os byddwch yn cael gwahoddiad i gwblhau cais llawn bydd gofyn i chi wirio’r canllawiau cais llawn yn gyntaf.