Mae’r gronfa hon yn un o chwe Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Gallwch ddod o hyd i ragor o ganllawiau ar gyfer y grant hwn a chyflwyno datganiad o ddiddordeb.
Cymhwysedd ar gyfer mentrau
Gall mentrau bach a chanolig (BBaCh) ariannol hyfyw nad ydynt wedi dechrau eto a sydd eisoes yn bod sy’n cynhyrchu refeniw o weithgarwch busnes, wneud cais am grant hyd at 50% (yn amrywio o £3,000 i £50,000), a ellir ei ddefnyddio i gefnogi prosiect cyfalaf a / neu wariant refeniw arbenigol cymwys.
Diffiniad y DU o BBaCh yw menter â llai na 250 o staff, trosiant o lai na £36 miliwn y flwyddyn neu gyfanswm o lai na £18 miliwn ar y fantolen.
Mae’n rhaid i’r mentrau gael eu rhedeg o gyfeiriad sydd o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’n rhaid i’r fenter gael y modd (un ai trwy ei arian ei hun neu gronfeydd eraill) i ariannu costau’r prosiect yn llawn i ddechrau. Bydd angen i chi roi tystiolaeth o hyn fel rhan o’r broses ymgeisio. Ni all y fenter ddefnyddio unrhyw ffynonellau eraill o gyllid grant tuag at gostau’r prosiect.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus (sy’n derbyn cynnig grant), gyflwyno ffurflen hawlio grant (erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf). Bydd angen i’r ffurflen hawlio gynnwys digon o dystiolaeth fod yr allbynnau a gytunwyd arnynt wedi cael eu bodloni a bod y prosiect wedi’i gwblhau yn unol â’r amodau a thelerau.
Bydd angen i’r holl ofynion cyfreithiol statudol perthnasol, cydsyniadau a chymeradwyaethau fod ar waith ar gyfer mentrau sydd eisoes yn bod, yn ogystal â lefelau priodol o sicrwydd yswiriant. Bydd angen i fentrau nad ydynt wedi dechrau eto sicrhau bod y rhain ar waith pan fyddant yn dechrau masnachu.
Ni roddir mwy nag un grant i un fenter.
Sectorau nad ydynt yn gymwys
Nid yw mentrau o fewn y sectorau canlynol yn gymwys am gefnogaeth:
- Glo / mwyngloddio mwynau / echdynnu tanwydd ffosil
- Gweithgynhyrchu dur
- Adeiladu llongau
- Banciau
- Cwmnïau yswiriant
- Tai
- Addysg statudol
- Gwasanaethau iechyd
- Pysgodfeydd / dyframaeth / amaethyddiaeth / coedwigaeth
- Pleidiau gwleidyddol
- Gweithgareddau o natur hynod grefyddol
- Gamblo
- Pornograffi
- Gweithgareddau rhywiol o unrhyw fath
Gwariant cymwys
Gall Grant Busnes Wrecsam helpu i ariannu gwariant cyfalaf a / neu refeniw arbenigol cymwys (heb gynnwys costau rhedeg parhaus). Gall hwn gynnwys:
Gwariant cyfalaf
- Peiriannau a chyfarpar
- Cerbydau ffatri fel wagenni fforch godi, telehandler, cloddwyr
- Caledwedd TG a thelecom (os yw wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â darpariaeth y prosiect)
- Deunyddiau marchnata / gwefannau
Gwariant refeniw arbenigol
- Hyfforddiant arbenigol/ technegol (nid o anghenraid wedi’i achredu) gan ddarparwr cydnabyddedig a chymwys (a asesir ar sail achos wrth achos)
- Comisiynu / gosod peiriannau
- Meddalwedd arbenigol
- Creu gwefannau, e-fasnach / siopau ar-lein, apiau
- Hysbysebu fel rhan o gynllun marchnata llawn (wedi’i asesu ar sail achos wrth achos)
- Ymgynghorwyr Arbenigol (wedi’i asesu ar sail achos wrth achos)
- Ardystiad Sicrhau Ansawdd (wedi’i asesu ar sail achos wrth achos)
- Costau sy’n gysylltiedig â darparu / gosod unrhyw offer cyfalaf
Gwariant anghymwys
Ni ellir defnyddio’r grant ar gyfer unrhyw un o’r dibenion canlynol:
- Unrhyw ran o brosiect a gwblhawyd gan yr ymgeisydd arweiniol neu’r fenter ei hun (p’un a ydynt mewn perchnogaeth lwyr neu’n rhannol) - mae’n rhaid i’r holl waith prosiect gael ei gwblhau gan bartïon/busnesau allanol
- Unrhyw wariant cyn i chi dderbyn y cynnig grant, gan na ellir dyfarnu’r grant yn ôl-weithredol
- Unrhyw wariant lle mae ymrwymiad i brynu wedi’i wneud cyn derbyn y cynnig grant
- Unrhyw bryniadau ag arian parod
- Gwariant refeniw cyffredinol fel costau staff neu unrhyw drethi eraill
- Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno
- Prynu cerbydau ffordd
- Costau cyfalaf gweithio fel stoc, rhent, cyfraddau, gweinyddu
- Aelodaeth a chysylltiad â chyrff llywodraethu
- Costau gwaith sy’n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, yn cynnwys caniatâd cynllunio
- Astudiaethau dichonolrwydd
- Prosiect a nodwyd o ganlyniad i astudiaeth ddichonoldeb ail-ddefnyddio safleoedd neu eiddo, lle mae cymorth grant yn cael ei geisio
- Os yw’r fenter wedi cofrestru at ddibenion TAW, yna ni fydd costau TAW yn gymwys (bydd costau TAW yn daladwy mewn achosion o fentrau nad ydynt wedi cofrestru at ddibenion TAW)
- Eitemau a brynwyd trwy gardiau credyd neu bryniant prydlesu, hurbwrcas, cytundebau credyd estynedig / prydlesau ariannol
- Ffioedd proffesiynol ar gyfer ymgynghorwyr busnes cyffredinol yn cynnwys cynlluniau busnes, ysgrifennu cynigion / unrhyw ffioedd sy’n ymwneud â chwblhau cais at ddibenion grant
- Prynu tir a / neu eiddo
- Llety preswyl
- Lobio, diddanu, deisebu neu benderfyniadau heriol a thelir amdanynt - sy’n golygu defnyddio’r gronfa (drwy gwmni allanol neu staff mewnol) er mwyn cynnal gweithgareddau i ddylanwadu neu geisio dylanwadu ar y senedd, llywodraeth neu weithgarwch gwleidyddol; neu geisio dylanwadu deddfwriaeth neu gam gweithredu rheoleiddiol
- Rhoddion, neu daliadau am anrhegion neu roddion
- Dirwyon statudol, dirwyon troseddol neu gosbau
- Unrhyw weithgaredd y mae gan fenter ddyletswydd statudol i ymgymryd ag ef
- Cynlluniau wrth gefn a dyledion digwyddiadol
- Rhandaliadau
- Drwgddyledion, costau o ganlyniad i ohirio taliadau i gredydwyr, neu ddirwyn cwmni i ben
- Treuliau mewn perthynas ag ymgyfreithiad, diswyddo annheg neu iawndal arall
- Costau a gyfyd mewn sefydlu a chyfrannu tuag at gynlluniau pensiwn preifat
- Gweithgarwch busnes sy’n anghyfreithlon neu a ystyrir yn anaddas ar gyfer cefnogaeth gennym ni
- Cyfraniadau mewn nwyddau
- Dibrisiad, amorteiddiad, neu leihad o asedau cyfredol