Yn dilyn datganiad llwyddiannus o ddiddordeb bydd arnoch chi angen darparu’r wybodaeth ganlynol fel rhan o gais llawn, o fewn 5 diwrnod i’r gwahoddiad i ymgeisio:
- Cadarnhad bod unrhyw wybodaeth wedi’i llenwi’n barod a ddarparwyd yn rhan o Ddatganiad Diddordeb yn parhau i fod yn gywir (bydd angen newid unrhyw beth sy’n anghywir)
- Cadarnhad a ydi’r fenter hefyd yn gweithredu o gyfeiriad arall y tu allan i Fwrdeistref Sirol Wrecsam ac os ydyw, ai dim ond ar gyfer gweithgaredd prosiect ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam y gellir defnyddio’r offer/gwasanaethau a ariannir.
- Rhifau Cwmni, Treth ar Werth (TAW) a Chyfeirnod Treth / Trethdalwr Unigryw fel y bo’n berthnasol
- Er nad yw’n angenrheidiol, gallwch ymhelaethu ar y disgrifiad a ddarparwyd o’r prosiect arfaethedig (hyd at 250 gair)
- Eto, er nad yw’n angenrheidiol, gallwch hefyd ymhelaethu ar y rhesymau dros y prosiect / beth y bydd yn ei gyflawni a sut fydd y fenter yn elwa yn y tymor byr a hir (hyd at 250 gair)
- Disgrifiad, os yn briodol, o sut y bydd y prosiect yn diogelu swyddi
- Disgrifiad (yn ôl yr angen) o unrhyw effaith gadarnhaol (tymor byr neu hirdymor) y prosiect ar y fenter o ran:
- Cyflwyno cynnyrch newydd (e.e. cynnyrch y mae’r fenter yn ei gynhyrchu / greu, nid cyflenwad stoc newydd)
- Mabwysiadu technolegau neu brosesau newydd
- Gwella cynhyrchiant
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gwella o safbwynt amgylcheddol neu helpu tuag at gyrraedd statws di-garbon net
- Sut gall y prosiect effeithio ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg (cadarnhaol neu negyddol) ac os yw’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn unrhyw ffordd
- Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol (o’r prosiect) ar y Gymraeg, neu sut y gellid lleihau effeithiau negyddol (o’r prosiect) ar y Gymraeg
- Manylion ynghylch sut y byddai’r fenter yn ariannu’r prosiect yn llawn o ran ffynhonnell / ffynonellau cyllid a gwerth (gallai ffynonellau cyllid gynnwys arian y fenter, arian y prif ymgeisydd / partner / cyfarwyddwr, benthyciad banc, gorddrafft ac ati)
- Dadansoddiad llawn o holl gostau’r prosiect
- Manylion unrhyw gysylltiad personol, teuluol neu fusnes rhwng yr ymgeisydd / y fenter a chyflenwr / contractwr
- Manylion cyfrif banc busnes y fenter
Bydd hefyd angen i chi baratoi ac uwchlwytho’r holl ddogfennau ategol sydd wedi’u rhestru isod:
- Cynllun busnes cyfredol
- Cyfrifon am ddwy flynedd lawn, lle mae menter wrthi’n masnachu (os yw eich set ddiweddaraf o gyfrifon yn fwy na 3 mis oed, darparwch gyfrifon rheolwyr, mor gyfredol â phosibl, ar gyfer y cyfnod sydd ar goll).
- Bydd angen i fentrau gweithredol sydd heb fod yn masnachu am 2 flynedd ddarparu cyfrifon am flwyddyn (lle bo modd) neu gyfrifon rheolwyr (mor gyfredol â phosibl)
- Datganiadau cyfrifon banc busnes, ar fformat PDF, am y tri mis diwethaf, neu dystiolaeth bod cyfrif banc busnes wedi’i agor gan fenter cyn-cychwyn
- Rhagolwg o lif arian ac elw a cholled disgwyliedig dros 2 flynedd (yn seiliedig ar gais grant llwyddiannus)
- Tystiolaeth o’r cyfeiriad y mae / y bydd y fenter yn gweithredu ohono, ar ffurf bil cyfleustodau, anfoneb ardrethi annomestig blynyddol, datganiad banc yn enw’r fenter, cytundeb tenantiaeth, ac ati
- Tystiolaeth o’r ffynhonnell / ffynonellau cyllid a fydd yn ariannu’r prosiect yn llawn ar ffurf datganiad banc, cynnig benthyciad, tystiolaeth o orddrafft wedi’i gytuno, ac ati
- Tystiolaeth o 3 dyfynbris gwreiddiol ar gyfer pob elfen o wariant y prosiect fel y nodir yn y crynodeb llawn o gostau prosiect (oni bai fod modd rhoi rheswm dilys i gyfiawnhau pam nad yw hyn yn bosib e.e. cyfarpar arbenigol), i sicrhau’r gwerth gorau am arian o ran ansawdd a phrisiau nwyddau neu wasanaethau. Dylid asesu a gwerthuso dyfynbrisiau drwy gymharu tebyg at ei debyg.
- Prawf adnabod â llun o’r prif ymgeisydd ar ffurf trwydded yrru neu basbort
Yn ychwanegol at y dystiolaeth / dogfennau ategol gorfodol uchod:
- Os bydd swyddi’n cael eu diogelu o ganlyniad i’r prosiect arfaethedig; bydd angen darparu rhagolwg o lif arian at fis Tachwedd 2024, i amlygu y bydd y niferoedd swyddi presennol yn cael eu cynnal hyd at 31 Hydref 2024.
- Os oes angen unrhyw fath o ganiatâd cynllunio, neu ganiatâd neu gymeradwyaeth arall, bydd yn rhaid darparu tystiolaeth o gael hynny.
Wrth gyflwyno cais llawn, bydd ein tîm Busnes a Buddsoddi yn gwirio bod y prosiect yn barod i ddechrau a bod yr holl fanylion a ddarparwyd mewn trefn. Bydd unrhyw wiriadau cefndir a diwydrwydd dyladwy yn cael ei gynnal fel bo’r angen cyn i (ble bydd cyllid yn parhau ar gael) geisiadau addas gael eu hatgyfeirio i banel grantiau ar gyfer penderfyniad.
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am benderfyniad y panel grant dros e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus fe'ch hysbysir o'r swm a gynigir ac unrhyw amodau ychwanegol sy'n ymwneud â'r dyfarniad a’r broses hawlio grant.
Bydd angen derbyn y cynnig grant, ynghyd â thelerau ac amodau llawn o fewn 7 diwrnod gwaith. Dyfernir y grant yma yn ôl disgresiwn ac mae’r penderfyniad yn derfynol.
Os gwneir ac y derbynnir cynnig am grant, bydd y fenter yn gallu dechrau’r prosiect gan ei ariannu’n llawn.
Canllawiau a thempledi Busnes Cymru
Maent hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad diduedd am ddim i fusnesau. Gallwch ofyn am gymorth trwy ffurflen gyswllt ar-lein Busnes Cymru (dolen gyswllt allanol).