Mae’r Gronfa hon yn un o bedair Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Gallwch ddod o hyd i ragor o ganllawiau ar gyfer y grant hwn a chyflwyno datganiad o ddiddordeb.
Amcanion
I gael eich ystyried ar gyfer y grant, bydd angen i chi gwblhau prosiect sy’n bodloni dau neu fwy o’r amcanion canlynol erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf:
- Creu swyddi
- Diogelu swyddi
- Sefydlu menter newydd
- Cyflwyno cynnyrch newydd i’r fenter (er enghraifft, cynnyrch mae’r fenter yn ei gynhyrchu / greu, nid cyflenwad stoc newydd)
- Mabwysiadu technoleg neu brosesau newydd i’r fenter
- Cynhyrchiant gwell
Mae’n rhaid i’r allbynnau fod yn gymesur i gyfanswm y grant y gofynnwyd amdano. Mae’n rhaid i chi egluro sut fydd eich prosiect yn bodloni’r amcanion yn ystod y broses ymgeisio.
Dyddiad cau ar gyfer cyflawni’r allbynnau a gytunwyd arnynt
Lle mae cynnig grant wedi’i wneud a’i dderbyn, mae’n rhaid i brosiectau a allbynnau gael eu cwblhau/cyflawni erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf, ac mae angen cyflwyno ffurflen hawlio grant erbyn y dyddiad cau hwn hefyd.