Mae’r pwyllgorau craffu yn cynnwys yr holl aelodau (a elwir hefyd yn gynghorwyr) nad ydynt yn aelodau o’n Bwrdd Gweithredol.
Eu prif bwrpas yw:
- adolygu a gwella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu fel cyngor
- gwneud argymhellion ar opsiynau polisi ar gyfer y dyfodol
- gweithredu fel dull gwirio ar gyfer y Bwrdd Gweithredol drwy ei ddwyn i gyfrif am ei benderfyniadau
Mae craffu yn bwysig er mwyn arddangos atebolrwydd y cyngor. Er enghraifft, gall aelodau craffu ofyn i aelodau’r Bwrdd Gweithredol a swyddogion y cyngor fynychu eu cyfarfodydd er mwyn egluro eu penderfyniadau.
Mae pump o bwyllgorau craffu yn Wrecsam:
Mae’r pwyllgor hwn hefyd yn gweithredu fel y Pwyllgor Craffu Troseddau ac Anhrefn fel y diffinnir yn Adran 19 a 20 Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006
Mae’r Grŵp Cydlynu Craffu (sy’n cynnwys cadeiryddion ac is-gadeiryddion y pwyllgorau craffu) yn arolygu ac yn cydlynu llwyth gwaith y pum pwyllgorau craffu.
Cysylltwch â’n tîm craffu
E-bost: scrutiny@wrexham.gov.uk