Bob blwyddyn rydym ni (Cyngor Wrecsam) yn cynnal y canfasiad blynyddol, eleni bydd yn dechrau ar Medi 16 ac yn para tan Ionawr 31.
Beth yw'r canfasio blynyddol?
Mae’r canfasio blynyddol yn ymgyrch cofrestru pleidleisiwr sy’n rhaid ei gynnal yn ôl y gyfraith. Mae’n cael ei wneud fel y gall y gofrestr etholiadol ar gyfer Wrecsam gael ei gwirio a’i diweddaru (i sicrhau y gall unrhyw breswylydd sy’n gymwys i bleidleisio wneud hynny).
Rydym yn cysylltu â phob aelwyd yn Wrecsam, yn gofyn i chi wirio bod y manylion sydd gennym ar gyfer yr eiddo ar y gofrestr etholiadol yn gywir.
Yna byddwn yn cyhoeddi cofrestr etholiadol newydd ar Chwefror 1, 2025.
Newidiadau yn y drefn ganfasio flynyddol a phwy all gofrestru i bleidleisio
Rydym yn awr yn cymharu manylion etholwyr sydd ar ein cofrestr â’r data sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae hynny’n ein helpu i ddod o hyd i gyfeiriadau lle mae pobl wedi symud i fyw a phenderfynu pa ohebiaeth i anfon i’r eiddo dan sylw.
Yr oedd pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yn cael pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd a gynhaliwyd ym mis Mai 2021, ac yn Etholiadau Llywodraeth Leol fis Mai diwethaf. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni bellach gofrestru pobl ifanc 14 ac 15 oed. Os oes gennych chi rywun sy’n byw yn eich eiddo sy’n 14 oed neu’n hŷn, mae hi bellach yn bosib eu hychwanegu i’r gofrestr etholiadol fel pan fyddant yn 16 oed bydd posib iddynt bleidleisio yn yr etholiadau hyn.
Yr oedd pob gwladolyn tramor (sy’n byw’n gyfreithlon yng Nghymru) hefyd yn gallu pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd a’r Etholiadau Llywodraeth Leol diwethaf. Yn y gorffennol dim ond dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, o’r Gymanwlad neu’r UE sydd wedi cael pleidleisio. Mae hyn yn golygu os ydych o wlad arall ar wahân i’r rhain y gallwch bellach bleidleisio yn yr etholiadau hyn.