Cofrestru i bleidleisio (dolen gyswllt allanol)
Ynglŷn â Chofrestru
Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad neu refferendwm yn y DU, mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio. Os ydych chi wedi symud tŷ’n ddiweddar, neu os nad ydych chi wedi cofrestru, bydd arnoch chi angen cofrestru cyn y gallwch bleidleisio.
Enw’r system bresennol ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw Cofrestru Etholiadol Unigol. Mae pob aelod o'r aelwyd yn gyfrifol am gofrestru eu hunain (yn hytrach nag un person yn y cartref yn gyfrifol am gofrestru pawb, fel yr arferai fod yn flaenorol).
Y gofrestr etholiadol
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus.
Mae dau fersiwn o’r gofrestr – y gofrestr etholiadol lawn a’r gofrestr agored (a elwir hefyd yn gofrestr olygedig). Caiff y cofrestrau eu rheoli’n lleol gan ein swyddogion cofrestru.